Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDOR YN Y MUR. Cloër fi mewn cell 0 lyfrau A'i llythrennau a'i geiriau yn furiau, Ac ynddi un ddor tuag Aber Henfelen. Pen a dorwyd, a gwaed a gollwyd, Da a ddifawyd, dwy ynys a yswyd. Ond rhith y llythyren a ddieithria ddolur, A ddwyn ddedwyddyd o boen yr awdur. O'r diogelwch tu ôl i'r dudalen Fyth nid agoraf tuag Aber Henfelen. Aber Henfelcn chwcdl Branwen sydd yma. Gweler Ifor Williams, Pedeir Rcinc y Mabinogi, tt. 45-7. GWYN THOMAS. Y GLOWR. Yr oedd mwy o lo nag o dân Rhwng y barrau, A'r ffordd awyr yn chwibanu fflam O'r gwely golosg. Fflam las. Ond, ai fflam a wclwn i Yn gorff ysgwydd lydan, Breichiau chwimwth A thraed braidd-gyffwrdd Ar lwyfan da\\ns y gaib gynt ? O dan y llwyfan clyw-wn glic, Clic y beltiau cafnog, Rhythm anadlu olwyn yr elw A phlwc pletiau crombil y graig- A'r galon gig. Wedi blino gwrando gwelwn Y wisg las yn ysgwyd. Hawdd oedd adnabod y fflam. E. LLWYD WILLIAMS.