Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PWY? Maent newydd fod ar y ffôn o'r Llythyrdy yn Llanwerfyl- Cadwaladr Prys wedi marw. Gwell i mi fynd yno'r prynhawn yma hwyrach-cr na fedr topyn o feddyg godi'r marw'n fyw. Yr oeddwn i ym Mhant-yr-hydd ddoe ddiwethaf. Rhyw flwyddyn a hanner yn ôl y bum i yno gyntaf, yn weddol fuan wedi i mi ddod i gynorthwyo'r hen Ddoctor Harris. Am rai misoedd bu'n dod hefo mi i bob man, i'm rhoi ar ben y ffordd a gorddweud cryn lawer am fy nghymwysterau wrth ei gleifion. Mi ddysga.s lawer yn ystod y misoedd hynny nid dysg llyfr a labordy, wrth gwrs yn wir mi wyddwn fwy o gryn dipyn am ddatblygiadau diweddar meddygaeth na'r hen Harris, yn naturiol felly a minnau newydd orffen fy nghwrs, ond amatur hollol oedd- wn i yn fy adnabyddiaeth o'r natur ddynol. Hwyrach fy mod i wedi dysgu gormod Mae rhai o'r cleifion, beth bynnag, yn troi i feddwl fy mod i'n fwy o law ar iachau eu hanwylderau na Harris ei hun, ac yn gofyn am danaf fi yn hytrach nag am yr hen fachgen. Nid yw hyn yn plesio, wrth gwrs. Mae o'n eithaf bodlon i mi ymlwybro i'r mannau mwyaf anghysbell, er mor amharod yw i gydnabod fod ei wynt yn byrhau a'i glyw yn pallu ond un peth yw iddo fy ngyrru i Fwlch-y-Croesau a Chwm-y-Benglog, peth arall hollol yw pobl yn galw yn y feddygfa, a gofyn am fy ngweld i Fel y noson o'r blaen. Yr oedd yna gryn ddwsin o bobl wedi troi i mewn, ac un ar ôl y llall yn dod i'm hystafell i. Daeth Dr. Harris i ben ei ddrws yntau. Dowch deulu bach, dowch deulu bach, neu mi fyddwn yma drwy'r nos." Neb yn symud Fe wylltiodd yr hen foi yn gacwn ulw "Marwch 'ta'r diawliaid gwirion," meddai, a chlep ar y drws, ac adref ag o wedi llyncu mul. Mae o'n sôn am ymddeol; ond wedi oes faith o weini ar gleifion y cylch yma beth gaiff o i'w wneud ? Fedr o ddim yfed wisgi drwy'r dydd er mor wydn yw o. Gorau oil gennyf fi. Nid oes gennyf fodd i brynu'r practis yma, a hoffwn i ddim gweld neb arall yn dod yn ei le. "Ei di i Bant-yr-Hydd heno ? gofynnodd Doctor Harris- flwyddyn a hanner yn ôl-" mae gen i dipyn o waith i'w wneud tua'r dref yma." Wedi blino yr oedd o, wrth gwrs, ac mi wyddwn innau hynny. Yr oedd hi'n ddiwrnod marchnad a'r lle wedi bod yn llawn drwy'r dydd. "O'r gore," meddwn i, oes yna alw garw am fynd heno ?"