Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWR GWADD. 3. KATE ROBERTS. Marw fy mrawd ieuengaf yn rhyfel 1914-18, methu deall pethau a gorfod sgrifennu rhag mygu.' Kate Roberts ei hun a ddywedodd hyn pan ofynnodd Saunders Lewis iddi beth a'i cynhyrfodd gyntaf i ddechrau sgrifennu. Storïau byrion a sgrifennodd i ddechrau, storïau am fywyd ei hardal enedigol-ardal Rhosgadfan, Sir Gaernarfon. Storïau oeddynt am y bobl y codwyd hi yn eu plith, a'u hymdrechu dygn i dalu eu ffordd a byw; storïau am brofiadau pob- dydd pobl gyffredin mewn cylch cyfyng, ond storïau a roddai i ninnau weledigaeth ar fywyd dyn ymhob- man. Y storiau hyn a enillodd i Kate Roberts ei lle ym myd llenyddiaeth. Ond ni fodlonodd hi ar y stori fer i fynegi y weledigaeth a gafodd ar fywyd. Ar wahân i Deian a Loli cyhoeddwyd eisoes bedair nofel o'i gwaith, ac ymddengys iddi bellach droi yn gyfan- gwbl bron at y nofel fel cyfrwng. Y mae ganddi nofel am fywyd ei Rhosgadfan hoff gan mlynedd yn ôl ar y gweill ar hyn o bryd. Buom yn ddigon lwcus i gael blaguryn y nofel hon i'r Arloeswr. Cyhoeddwn ef yn y rhifyn hwn, yn ogystal â sgwrs bwysig a dadlennol rhwng y nofelydd a Gwilym R. Jones am broblemau ei chrefft a'i phrofiad hi ei hun wrth sgrifennu.