Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GRAS A LLECHI PENNOD RAGARWEINIOL. Nid oes dim yn y capel heno, na seiat, na chyfarfod gweddi, na phregeth. Ni ddaw golau egwan cannwyll ohono, ac y mae'n sefyll yn y fan acw fel ysgubor dywyll. Nos yfory, fe fydd ei olau gwan yn tynnu'r tyddynwyr ato efo'u llusernau a'u ftyn, i'r seiat, fel gwyfod o bob cwr o'r rhostir yma. Mor rhwydd y daw'r geiriau, "capel," "cyfarfod gweddi" a "seiat" dros fy ngwefusau heddiw. Fe gymerodd amser maith imi gynefino efo hwy, a minnau wedi treulio fy ieuenctid yn sŵn y Credo a'r Salmau Cân a gweddi'au'r Llyfr Gweddi. Mae Pyrs yn ei fedd ers hanner blwyddyn bellach, mae'r plant i gyd, ag eithrio Huwco, wedi troi dros y nyth, ac y mae hi'n rhyfedd o unig yma. Ni chlywaf ddim ond sŵn y gwynt yn udo o gwmpas y ty, sŵn Huwco yn cysgu a sŵn ambell wreich- ionen yn y tân mawn. Teimlaf nad oes gennyf ddigon i'w wneud rywsut ar ôl yr holl waith efo Phyrs druan. Mor fusgrell yr oedd, ac yntau'n ddim ond ychydig dros ei hanner cant. Chwith iawn yw bod heb eisiau ei helpu i gerdded i'r siamber, ei helpu i dynnu oddi amdano a'i roi yn ei wely, ac mor chwith yw peidio â'i glywed yn dweud, Dwn i ddim be wnawn i heboch chi Deina" (Yr oedd wedi gwneud hebof lawer gwaith cyn i'r cricymalau ei yrru i'r gongl, ond fe ddaw'r stori honno yn ei thro). Yr wythnos dwaethaf, wrth weld yr amser yn dirwyn mor araf, y daeth imi'r meddwl am sgrifennu hanes fy mywyd. Mae llawer yn gwneud hynny, o bobl sy'n medru sgrifennu. Mi fûm i a'm dwy chwaer yn ftodus i gael tipyn o ysgol. Mi anfonodd Mam ni i ysgol a gedwid mewn ty gan ryw hen ferch a oedd yn byw mewn sgwar wrth yr Egls. Byddem yn cerdded y pedair milltir yno ac yn ôl bob dydd. Cawsom ddysgu darllen ac ysgrifennu a chyfrif a dyna'r fendith fwyaf a gefais oedd dysgu darllen. Nid oedd dim difyrrwch arall ym Mhant-y-Llyn. Dynes wael yn eistedd yn ei chadair a siôl frethyn dros ei hysgwyddau y cofiaf fi Mam erioed. Mae'n debyg na chryfhaodd hi byth ar ôl fy ngeni fi. Fe âi weithiau o'r gegin orau i'r gegin gefn i weld ynghylch y bwyd, neu, llywodraethu ei thy o'i chadair y byddai. Ni byddai ganddi byth fawr air caredig i'w ddweud wrthyf fi. Y fi oedd achos-ei chaethiwed, a buasai cyn hynny yn ddynes weithgar a hoff o glapsan (dyna fel y galwem ni wylmabsant) a noson lawen. Yn wir, clywais mai hi oedd y ddawnsreg orau yn neithiorau priodas y plwy. Bu marw John, fy unig frawd, yn angau iddi. Ni wyddwn ddim y pryd hynny beth oedd y dirgelwch ynglyn â John. Ai allan bob gyda'r nos ar gefn y ferlen, a byddwn i wedi cysgu hanner noson cyn iddo ddyfod adref, ac felly bob nos ag eithrio nos Sul. Y noson honno, eisteddai wrth y tân fel bwch wedi ei goethi, nid âi ar gyfyl yr Eglwys. Un bore pan ddeffroais, sylwais fod distawrwydd mawr dros y ty, y gweision a'r forwyn yn