Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fedrwch chi ddarllen a sgwennu ?'' Ni welais olwg mor ddigalon ar neb erioed wedi i mi ofyn y cwestiwn. "Na fedraf," meddai, "mi rown i lawer am gael dysgu." "Mi ddysga i chi," meddwn innau. Chwerthin a wnaeth o a cherdded i ffwrdd. A wir, mi gefais fy ffordd gan fy nhad. Dyna lle y byddwn bob nos yn. eistedd wrth ei ochr wrth y bwrdd yn y gegin orau a'r Beibl mawr o'm blaen, cwil gŵydd fy nhad yn fy llaw a darn o bapur y daethai Nhad â fo o'r dre rhyngof a'r Beibl. Inc piws hefyd wedi i mi fy hun ei wneud o ysgaw. Byddwn yn cymryd y llythrennau fesul un o adnod ac yn eu gwneud yn fawr ar y papur a dweud beth oeddynt lawer gwaith wrth Byrs. Wedyn, mi gymerwn adnod arall a gofyn i Byrs beth oedd y llythrennau yn y geiriau. Byddai yn eu cael yn iawn bob tro. Wedyn rhoi'r llythrennau wrth ei gilydd i wneud geiriau hawdd fel tân ac uwd. Yr oedd yn ddigon o nefoedd i mi gael bod wrth ei ochr felly, er bod Nhad a'm chwiorydd a'u llygaid arnaf. Mewn llofft uwchben y stablau y cysgai'r gweision, ac ni fedd- yliais i fod dim o'i Ie yn hynny hyd nes i mi ddechrau mynd yn hoff o Byrs. Wedyn, byddwn yn meddwl nad oedd yn beth iawn i neb gysgu wrth ben drewi. Pan ddywedais i hyn wrth Grasi, dywedodd yn reit ffwr-bwt, "Wnaeth drewi 'rioed ddrwg i neb, a mae llofft stabal yn gynnes iawn." Y tro cyntaf y cefais siampal o dempar ddrwg Pyrs oedd rhyw noson pan gododd helynt mawr yn y gegin, a Phyrs wedi colli arno'i hun yn lân. Bu'n rhaid i Nhad fynd yno i sistio a chadw gwastrodaeth. Ond yn wir nid oedd Nhad mor ddig ag yr ofnwn. Pyrs oedd wedi codi helynt ynghylch yr uwd, dweud bod Leusa'r forwyn yn ei ferwi mor hir, nes oedd yr hogiau i gyd yn rhwymo'n gorcyn. Ymhen blynyddoedd y sylwais i ar effaith berwi uwd rhy hir ar y corff. Ond rhaid imi roi pen arni am heno. Mi ddaw Ifan a Margiad Jones yma ar sgawt ac mi ddeffry Huwco. Y creadur bach Ddim ond deuddeg oed ac yn gweithio yn nhwll y chwarel. Y fo ydyw fy mywyd i gyd ar ôl colli Pyrs. Mae o'n ddigon eiddil. Rhaid imi dreio fforddio wy iddo fo cyn mynd i'w wely. Nid oedd fawr o saig yn y potes cig hallt yna a gafodd o i swper chwarel. Wel, dyna ddechrau hanes fy mywyd tymhestlog. Mae Nhad yn dal i ofyn a ydwyf yn ddedwydd efo Phyrs. Nid yw'n cofio ei fod wedi marw. Medraf ei ateb fy mod, yn fwy pendant heno nag erioed, er nad yw'n mynd i mewn i'w feddwl, dyna sy'n chwithig. Os yw magu llond tŷ o blant, codi capel, dechrau chwarel, terfysgu a ffraeo ynghylch dynes arall ac ynghylch hawliau meistr tir, gwylio eich gŵr yn mynd trwy holl wewyr a phangfeydd pechu, cael buddugoliaeth yn y diwedd a dyfod i hafan dawel ei Arglwydd, a'i wraig yn medru ei garu trwy'r cwbl yn dweud bod dynes yn ddedwydd, yna mi ddylwn i fod.