Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

seilio ar ymresymiad cymdeithasol. Fel y mae'n rhaid i'r milwr wrth ei arfogaeth ef yn y frwydr yn erbyn cyfalafiaeth, felly mae'n rhaid i'r llenor wrth ei offer yntau. Nid ei fod yn wych neu'n wachul, yn brentis neu'n bencampwr oedd yn bwysig, ond ei gyfraniad i'r chwyldro. Nid ef ei hunan, ychwaith, oedd ei ddeunydd. Nid mynegi ei bersonoliaeth' yn null yr ysgrifwr nid ei seícdreiddio a'i ys- baddu ei hunan i lonyddiaeth diffrwyth yn null nofelwyr seicol- egol a seiciatrig,-adwaith oedd hynny. Nid traethu crefydd oddefol, laeth-a-dŵr, bid sicr, oedd ei waith, canys crefydd felly oedd un o arfau effeithiolaf y cyfalafwr. Ac uwchlaw popeth, ni allai roi darlun o'r cyfalafwr ond fel ymgnawdoliad o'r drwg ci hun. Cytunid mai dihangfeydd rhad oedd y swm o lenyddiaethau ac adloniannau poblogaidd-storïau serch a rhyw straeon amer- icanaidd chwedlau am ryfeloedd tramor ffilmiau Sam Goldwyn, a'u tebyg. Rhan o gynllwyn y cyfalafwyr cyfrwys i suo'r werin dwp i gysgu oedd y pethau hyn i gyd. Yr un modd hefyd gyda llenyddiaeth forbid yn ymdrin â cholled a marw, a'r ymateb personol, mewnol i hynny-oni ddigwyddai i'r farwolaeth a ddisgrifid fod wedi digwydd mewn chwyldro, neu amgylchiadau y gellid eu dehongli fel praw y dylid cael chwyldro. Ond âi'r ddadl yn ddyfnach na hyn, ac er mai materoliaeth hanesyddol oedd ei sylfaen honedig, yr oedd ar brydiau'n ymylu ar rhyw fath o gyfriniaeth. Dosbarth yn marw oedd y cyfalafwyr a'u cynffonwyr marwoldeb oedd eu nôd. Casgliad o unigolion amryfus oeddynt a hyn, o safbwynt y frwydr, oedd eu gwendid. Ni allent gydffynnu â'i gílydd-fe1 y dangosodd rhyfel 1914-18, rhyfel Sbaen, a pholisiau gwledydd yr Echel ffascistaidd. Ni allent byth gydfod fel dosbarth am na allent byth anghofio eu buddiannau hunanol eu hunain. Dinistr a marwolaeth, felly, oedd eu harfaeth. Ond nid felly'r bobl gyffredin. Byw'n fwy rhydd a byw'n well oedd eu hamcan hwy; cyd-daflu hualau ymaith oedd eu pwrpas ymhob gwlad. Ni allai fod cynnen rhyng- ddynt oherwydd fod eu golygon tua gwawr decach a gwell byd a hynny, fel y profai bodolaeth y Comintern (bryd hynny)^ drwy'r holl fyd. Yn y bobl gyffredin felly yr oedd ffynhonnell bywiog- rwydd, blaengarwch a ffydd ddiderfyn. Amcan mawr llenyddiaeth ydoedd mynegi a bod yn llad- merydd i fywyd yn ei holl allu a'i nerth. Ac felly, 'roedd yn rhaid i'r llenor beri i'w ddawn gynnwys cymaint byth ag a fedrai o fywyd y mwyafrif mawr gwerinol. Nid gorchymyn na phlaid na sect oedd hyn, ond rheidrwydd hanesyddol, y rheidrwydd sy'n esgor ar ryddidnewydd llawnach o oes i oes. Ys gwir nad o?dd niferoedd mawr o'r werin yn sylweddoli eu lle a'u swyddogaeth mewn hanes, ac oherwydd hynny rhaid oedd i'r llenor hefyd genhadu ac addysgu'r bobl i weld eu lle a'u