Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OFN. 1 Troediai Elwyn Hughes, saith ar hugain, haint dwyflwydd oed ar ei ysgyfaint dde, hyd barc iechydfa yng ngogledd Cymru. Heibio'r lawntiau â'u borderi blodau ac i mewn i drefnusrwydd caboledig y coed pin, yn bwyllog, fel rhywun hen wedi codi allan ar brynhawn braf o wanwyn wedi'r gaeaf. Ychydig ymhellach, ac o olwg adeiladau'r ysbyty, safodd i gael ei wynt ato, a'r un pryd i daro sigaret rhwng ei wefusau a'i thanio. Smôc Wel, fe'i haeddai, allan am y tro cyntaf ers ugain mis a phythefnos a phythefnos, cofiwch. (Buasai'n rhifo'r dyddiau fel carcharor.). Y bore heddiw, edrychasai'n hir arno'i hun yn y drych, y drych teiliwr mawr yng ngaban y Chwaer. Ar y dechrau methodd ddyfalu pa rhyw druan meinfrest meinwddf a rithiai'n glownaidd o'i flaen. Ai efo ydoedd mewn gwirionedd? Braidd yn ddychrynedig aethai'n gyflym trwy gyfres o ystumiau wyneb a chorff, i geisio dal cip ar y dyn a fu. Ond heb lwyddo. Am eiliad wrth adael y drych, tybiodd iddo gael cip ar ei daid ynddo. Er natur ei salwch, tynnai'n awchus ar y mwg am rai munud- au. Taflu'r stwmp wedyn i'r gwellt, a gwylio'r tapr mwg mein- las yn ymestyn i fyny'n garuaidd, artistig. Ac wrth edrych, sylweddolodd mor llonydd a chlos yr oedd hi yno, o dan gaead coed felly, ac mor ddistaw distawrwydd gwyrdd, twym, anghyn- nes. A thoc dechreuodd ddychmygu bod yno adar yn y gwres yn ei wylio, adar llonydd fel llyffaint chwilfrydig unllygeidiog A gwaeth efallai; nadredd mud, ymestyngar a'u safnau'n ddim ond holltau di-deimlad Brawychodd yn fân blorynnod drosto. Pa ryw ddiefliaid eraill nad oedd yn cuddio yno ? Trodd i gyfeiriad yr ysbyty a dechrau cerdded yn gyflym, tra rhedai iasau oer i fyny ei gefn. Parc Uffern i'r meddyg am ei yrru i'r fath le! Brysiodd. Ond pan ddaeth yr adeiladau i'r golwg, yn lle mynd yn ei flaen, trodd i'r chwith a dilyn y llwybr a redai hyd ymylon y coed. Ac yr oedd yn meddwl: wedi'r cwbl, siawns y cai ddigon o'r ysbyty eto mewn difrif, ni allai daflu dwyawr o ryddid i ffwrdd rwan, dim ond oherwydd ffwl ofnus oedd i ymddwyn fel hyn, fe ai'n ei ôl. Ond hyd ymylon y parc o hyd, a cherddodd am ddeng munud nes dod i olwg ffordd. Gallai weld rhyw ganllath ohoni, at y tro sydyn lle y diflannai. Anelai at dir uchel i rywle, i gydio'r tyddynod ynghyd, mae'n debyg. Arhosodd gan edrych o'i gwmpas am sbel, yn wyliadwrus, euog. Wedyn, trosodd ag ef, ac i'r lôn.