Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Can Gyntaf Bobi Jones. Spwtniceiddiwyd caerau traddodiad a pharchusrwydd pan ymddangosodd Bobi Jones yn ein ffurfafen lenyddol, ac y mae arnom ddyled fawr iddo am ei waith da. Ond fel y cydnebydd Mr. Jones, yr wyf yn siwr, hawdd yw bod yn enfant terrible mewn gwlad fechan, barchus (ar y wyneb) fel Cymru. Peth negyddol ydyw dryllio delwau, wedi'r cyfan camp gadarnhaol yw creu prydferthwch. Cafodd Mr. Jones hwyl ar ddryllio'r delwau a chlirio'r tir, ond bu'r cynhaeaf yn brin-yn siomedig o brin, oherwydd gwyddom oll ei fod yn llenor talentog. Eithr ni chyf- lawnodd ei addewid cynnar; nid yw wedi aeddfedu. Yn wir, daw anaeddfedrwydd y cerddi hyn yn boenus o amlwg o'u cym- haru â'r canu praff a gawsom yn ddiweddar gan Waldo Williams, dewin Dyfed, ac Alun Llewelyn-Williams. Canu tywyll yw'r rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol hon. Dyn a wyr nad wyf yn un o'r rheini a gred y dylai pob barddoniaeth fod mor glir â nant y mynydd groyw, loyw. Fodd bynnag, ni ellir maddau'r tywyllwch hwnnw sy'n gynnyrch niwlogrwydd meddwl ac aflerwch crefft, a rhaid dweud mai dyna geir yn aml yn Y Gân Gyntaf. Y mae'r mwyafrif o'r cerddi hyn yn dywyll am eu bod yn gwbl bersonol ac anhreuliedig, ac am fod eu harddull yn chwithig o anghymreig. 'Ni ddeall neb arall hyn,' medd y bardd, ac ni fynnwn ddadlau ag ef. Edmygu ei fogail, syllu ym myw ei lygaid ei hun, ymdroi gyda'i bersonoliaeth ei hun-dyna briod waith y bardd hwn. O ganlyniad, y mae ei orwelion a'i apêl yn gyfyng, gyfyng. Ei gorff ei hun a'i brofiad preifat ei hun yw prif bynciau ei fyfyrdod. Buasai'n wir ddrwg arno heb y rhagenw blaen, cyntaf unigol :-` Fy nghorff, fy nghnawd, f'ysgerbwd, f'wyneb-wy, fy mron, fy ffroenau, fy ngwefusau, f'ymysgaroedd, fy mola bach, fy ffolennau bach '-y maent yma i gyd, hyd ddiflasdod, ynghyd â'r gymhariaeth syfrdanol, hawdd a'r rhethreg ddiystyr-holl arfau'r poseur llenyddol. Difyr yw cofio i Mr. Jones feirniadu gwaith R. Williams-Parry am ei fod yn rhy bersonol. Nid oes dim gwerth mewn llinellau fel y rhain Os af yn wyllt pan welaf di drachefn A gwrido'n dduach nag yw'r pabi piws, Os chwysaf hyd fy nghlustiau ac 'lawr fy nghefn A'm llaw'n lletchwith yn dy glwydo'n glos. Neu: Gwarth yw tario fel hen lanc ] A cholli 'mhwys (sic) o eisiau merch. Gwyrth fydd gollwng gwasg y gwanc Pan dorra'-i 'ngwaed yn drydan serch. Teimlaf fod 'y mola bach ] Yn hiraeth-wywo dan y straen, etc., etc.,