Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARLUNIO. Gwyl Gelfyddyd Bangor. Dibynna arluniaeth yn fwy efallai nag unrhyw gelfyddyd arall ar nawdd fel amod ei bodolaeth.' Dyna frawddeg a ysgrif- ennais yn rhifyn cyntaf Yr Arloeswr, yr haf diwethaf. Yn y rhifynnau nesaf ceisiaf fesur maint y nawdd a roddir i arlunwyr yng Nghymru heddiw, a rhoddaf sylw arbennig i waith yr Am- gueddfa Genedlaethol, Oriel Glynn Vivian yn Abertawe ac Academi Cambria yng Nghonwy, yn eu tro. Cychwynnaf, fodd bynnag, nid â'r hen sefydliadau hyn, ond gyda mudiad sydd eto yn ei fabandod fel noddwr celfyddyd yng Nghyrrtru. Dim ond dyflwydd oed yw Gwyl Gelfyddyd Bangor, ond eisoes enillodd ei lle fel noddwr gwerthfawr i arluniaeth yng Nghymru. Cychwynwyd yr Wyl hon y llynedd gan nifer o fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor. Teimlid nad oedd y coleg yn gwneud yr hyn a ddylai dros y celfyddydau yng ngogledd Cymru. Rhoddir sylw i'r ddrama, i gerddoriaeth, i lenyddiaeth yn ogystal ag i arluniaeth yn yr Wyl. Breuddwyd ei sylfaenwyr yw gweld cwmni drama proffesiynol a cherddorfa simffoni yn perfformio ym Mangor, a gweld yr Wyl Gelfyddyd yn ganolfan pwysig i artistiaid Cymreig. Eleni rhoddwyd llwyfan i dri artist: Jonah Jones, Leslie Jones a Selwyn Jones. Cerflunydd mewn carreg a phren ydyw Jonah Jones. Yn enedigol o ogledd Lloegr, ymgartrefodd ym Mhentrefelin, Cricieth, a chyfrifwyd ef ers blynyddoedd yn artist Cymreig. Arddan- goswyd ychydig o'i waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llan- gefni y llynedd; 'Susanna,' Jacob yn Mheniel,' a phen 'John Cowper Powys,' a chafodd yr olaf gymeradwyaeth arbennig gan feirniaid y Fedal Aur. Ym Mangor, fis yn ôl, gwelwyd pymtheg o'i gerfluniau. Hoffais bob un ohonynt. Y mae i garreg a phren eu grym, a rhaid i'r cerflunydd ei barchu, hyd yn oed wrth efel- ychu meddalwch cnawd dynol. Y mae creadigaethau Jonah Jones yn gain a chymeriad cryf yn tasgu allan o bob un ohonynt. Yn ei Job' mawreddog a'i Wraig yn Sefyll' ceir teimlad yn ogystal. Rhaid ei gydnabod yn feistr ar ei ddefnyddiau. Defn- ynnodd fywyd i mewn i garreg a phren. Y pin crafu, nid y morthwyl, yw cyfrwng Leslie Jones. Maen- argraffiadau, crafiadau a llin-grafiadau yw'r rhan fwyaf o'i gyn- nyrch ef, er iddo arddangos dau lun mewn olew a dau mewn inc a gouache hefyd ym Mangor. Gan i lawer fynegi eu hanwybod- aeth o'r gwahaniaeth rhwng y termau hyn, wrth fynd o amgylch yr arddangosfa, mentraf eu hesbonio. Fel yr awgryma'r enw, dull o argraffu oddi ar garreg yw maen-argraff (lithograph). Paratoir y garreg yn y fath fodd fel y bo'r inc yn aros ar rannau ohoni yn unig. Tynnir llun ar y garreg, a hynny o chwith, mewn inc