Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fel y dengys yn ei ddefnydd helaeth o goch, a hynny'n aml yn syth allan o'r tiwb. Defnyddiodd las yn helaeth hefyd, ac ni all neb anghofio'r lleuad bychan a lwyddodd i wthio'i hun i bron bob un o'i ddarluniau-ofergoeledd efallai. Nid oes ofod i ymdrin â holl waith Selwyn Jones, a rhaid bodloni yma a'r nodi'n unig y darluniau a hoffais fwyaf. O'r holl gynnyrch y mwyaf aeddfed, i mi, oedd 'Ysgerbwd.' Heb ddefnyddio persbectif na golau yn y ffordd draddodiadol, llwyddodd yr arlunydd, trwy drefnu'r cyf- ansoddiad ar wahanol wastadeddau a thrwy amrywio ei liwiau, i fynegi cymeriad ei oddrych. Y driniaeth hon a gafodd amryw o'i destunau. Bu'n llwyddiannus gyda 'Groeslon' a 'Pont,' ond nid mor llwyddiannus gyda 'Cychod' a 'Chwarel.' Dyfnder bendigedig oedd apêl fwyaf 'Fframwaith,' sef golygfa o bier. Edrychem i mewn i'r tir trwy gymhlethdod yr ysgaffaldiau oddi tanodd. Dyma ddarlun, fel Chwareuwyr Cello,' a dyfai ar y syllwr o'i weld yn aml. Dyma arlunydd y dylai orielau Cymru weld llawer o'i gynnyrch yn y blynyddoedd nesaf. Y mae ganddo brofiadau gwerthfawr a'r ddawn i'w mynegi. Rhoddwyd llwyfan i waith y tri artist hyn ym Mangor, a rhoddwyd cyfle iddynt hefyd i werthu eu gwaith. Gwerthodd y tri yn dda. Bu'r arddangosfa yn ysbrydoliaeth iddynt i greu- mae'n ddiddorol nodi i'r rhan fwyaf o waith Selwyn Jones gael ei gynhyrchu yn ystod y chwe mis diwethaf-a chawsant dal am eu hymdrechion. Yr oedd brwdfrydedd ymhlith y rhai a ddan- gosodd eu gwaith a'r rhai a ddaeth yno i'w weld. Y mae'n hawdd credu y bydd artistiaid eisiau dod i'r Wyl hon i arddangos eu gwaith cyn hir. Bydd Gwyl Gelfyddyd Bangor yn ganolfan i artistiaid Cymreig a bydd yn un o brif noddwyr arluniaeth yng Nghymru. CiiiRAliNl S. JUINti:>. RHYDDIAITH. Dyddlyfr Ysbrydol. Dyddiadur ysbrydol yw Cudd Fy Meiau, y cyntaf o'i fath i'w gyhoeddi yn Gymraeg. Cafwyd llawer hunangofiant ysbrydol, o Gofiant Thomas Jones hyd at Bererindod Ysbrydol Keri Evans, ond ni chafwyd o'r blaen, hyd y gwn i, ddyddiadur ysbrydol. Dyna yw dyddiadur mawr Hywel Harris, wrth gwrs, ond ni chyh- oeddwyd hwnnw ac ysywaeth nis cyhoeddir yn rhannau hanes- yddol' y gwaith yn unig y mae diddordeb ysgolheigion heddiw. Eto, fel y dywed yr awdur, nid ymgais i lanw bwlch yw Cudd Fy Meiau. Ymgais ydyw, yn hytrach, i ddadelfennu afiechyd y tlawd hwn ac i geisio iachâd.' Dyddiadur taith ydyw, taith ar hyd via purgativa'r cyfrinwyr, ffordd puro'r enaid o'i bechod. Ar ddechrau'r daith, mae'r awdur yn gyson ymwybodol o bresenoldeb