Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nid yw'n deg iddo ddatgan barn. Rhaid bwrw'r brentisiaeth hon bob amser cyn mentro cloriannu. Cyflawna'r beirniad llenyddol ei dyletswydd i'r cyhoedd trwy ddangos rhagoriaethau a gwcndid- au y gwaith sydd o'i flaen, yng ngolau ei wybodaeth ei hun a'i astudiaeth o'r testun, a thrwy sylwi ar ei ffurf a'i gymeriad, boed gerdd, drama neu nofel. Ymddengys i ni yng Nghymru anghoíio am fodolaeth yr ystyriacthau hyn. Canlyniad anwybyddu'r rheolau uchod, a thrin beirniadaeth lenyddol fel gêm y gall unrhyw un gymryd rhan ynddi ond cydio mewn papur a phensel, yw datgan barn fympwyol. Am fwy nag un rheswm y mae'r farn honno'n ansicr. Gall y beirniad bwyso a mesur y llenor yn hytrach nag ystyried y gwaith sydd o'i flaen. Gall ddatgan barn heb ddeall y gwaith o gwbl. Gall gollfarnu yng ngolau camarweiniol ei ragfarnau ei hun, neu gall ymatal rhag datgan barn onest oherwydd cyfeillgarwch â'r awdur neu barch tuag ato. O wneud hyn y mae'r beirniad yn peryglu safonau ei ddewis faes ac yn swcro dirywiad llenyddiaeth. Yng Nghymru cymhlethir y sefyllfa gan ddwy ystyriaeth bellach. Gan mai peryglus o annigonol yw'r farchnad i lyfrau Cymraeg ar y gorau, gall y beirniad deimlo mai ei ddyletswydd ef yw peidio a beirniadu unrhyw lyfr yn anffafriol rhag ofn i'w feirniadaeth andwyo'r gwerthianf. Gellir cydymdeimlo â'r agwedd hon. Ni ellir ei chymeradwyo, oherwydd yn y pen-draw ni byddai gostwng safonau yn y fath fodd yn dwyn ffrwyth da. Yr hyn a ddigwyddai fyddai i'r cyhoedd golli golwg ar yr angen am safon a bodloni ar y peth hwylusaf i law. (Digwyddodd hyn eisoes yn Lloegr). Ond y mae perygl arall mwy enbyd. Gall y llenor ei hun roi heibio anelu at safon uchel a bodloni ar y cyffredin, yr ystrydebol a'r rhwydd. Yng Nghymru hefyd, oherwydd rhif bychan ein llenorion, y mae'r elfen bersonol yn mynnu ymwthio i'n beirniadaeth. Mewn sgwrs radio beth amser yn ôl awgrymwyd mai'r ifanc yn unig a allai fforddio beirniadu'n wrthrychol yng Nghymru, gan mor gryf yw dylanwad yr elfen bersonol ar feirniadaeth y canol-oed. Y mae hon yn broblem ddilys, ond y. mae'n rhaid inni geisio ci goresgyn os mynnwn gael beirniadaeth iach. Wedi'r cwbl, nid yw beirniadaeth anffafriol yn gyfystyr ag ymosodiad personol, a gorau po gyntaf y sylweddolwn hynny. Gorffennaf, 1958.