Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid wyf am geisio ateb gosodiad yr adolygydd hwn ar gwest- iwn culni cenedlaethol tybiedig Mr. Saunders Lewis, ond yn unig ddweud fy mod yn anghytuno ag ef. Y cwestiwn yr wyf am ddal arno ydyw'r un sy'n amau hawl yr artist i ddefnyddio ei iaith ef ei hun, a'r cyhuddiad mai delfrydiaeth afresymol sy'n peri ei fod yn gwneuthur hynny. Ond ai mater o ddelfrydiaeth ydyw'r peth o gwbl ? A oes gan yr artist, mewn gwirionedd, ddewis o gwbl ? Y mae'n gwest- iwn pwysig a sylfaenol, ac un sy'n peri cryn benbleth yng Nghymru'r dwthwn hwn. Gwlad yw Cymru lle y mae dwy iaith a dau wareiddiad yn cyd-fyw ochr yn ochr-un iaith yn gref a hollalluog, bron, a'r lIall yn dihoeni, ac yn ymladd am ei bywyd. Ond yr wyf am ddal nad oes gan yr artist a anwyd i unrhyw un o'r ddau wareiddiad hyn, unrhyw ddewis ynglyn â pha iaith a ddefnyddir ganddo wrth greu. Mae'n wir y gall Cymro Cymraeg o artist ddewis ysgrifennu yn Saesneg, ond gweithred annormal fyddai hynny. Pa faint bynnag y cydymdeimlwn â'r artist yn ei ddilema, y mae hunan-laddiad cenedlaethol neu artistig mor wrthun â hunan-laddiad unigolyn. Ac nid cwestiwn iaith yn unig ydyw, ond yr hyn sydd ynghlwm wrth yr iaith. Iaith yw ystordy doethineb y canrifoedd,=­can- rifoedd o brofiadau cyffredin sy'n deillio o gyd-fyw, cyd-ddioddef, a chyd-ymlawenhau. Mae'n eithaf gwir y medrwn ni ddyfod yn bur ddeheuig wrth drafod dwy iaith, ond ym myd llenyddiaeth nid oes y fath beth â dwyieithogrwydd. Os ydych am brawf o hynny ceisiwch gyfieithu cywydd o waith Dafydd ap Gwilym i'r Saesneg, neu baragraff o Shakespeare i'r Gymraeg, a buan y gwelwch pa mor wrthnysig yw'r broblem. Y mae iaith nid yn unig yn gyfrwng i drosglwyddo gosodiadau rhesymol, didactig, ond y mae hefyd yn allu i ryddhau'r elfennau hynny sydd y tuhwnt i'r rheswn, a rhaid i'r artist wrth yr allwedd er mwyn gwneud hynny. Un allwedd sydd. Un allwedd sydd gan yr artist i ystordy'r isymwybod, a honno ydyw, mewn geiriau pur gyfarwydd, iaith ei fam. Pa fyddwn ni'n darllen cyfìeithiadau, y cwbl a wnawn, y cwbl a ganiateir inni ei wneud, ydyw sefyll o'r tuallan i'r ystordy, a chymryd golwg drwy ffenestr ddigon cul ar y trysorau a'r gogoniannau oddimewn. A gwyddom o'r gorau pa mor gyfyng yw'r olwg a gawn, a chymaint y diflastod yn aml am na allwn fynd trwy'r drws, a gweld y trysorau yn eu cyfan- rwydd godidog. Am hynny nid yw mor hawdd ag y mynn, neu yr awgryma'r adolgydd a ddyfynnais ar y dechrau, i artist drosglwyddo ei weith- garwch creadigol o'r un iaith i'r IlaIl, yn unig am fod y gynull- eidfa mor druenus o fychan.