Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi. PORTREAD O FARDD. Closiaf yn dy dy, dan dy dô, at dân d'awen Dyddynwr diddan Gwyliaf y tulathau hen yn tonni'n llawen Yn y nenfwd cadarn coch a'i gysgodion tlws. O'r fath gadw, a chanu'r cadw a fu yn dy gaban, Y fath foli'r cynaeafu cadw-bywyd y baban, Bywyd y llanc, bywyd yr henwr tu ôl i'th ddrws. Ffenestr yw dy groen yn tynnu goleuni cymdeithion, Eu cymathu yn dy galon, yn dy enaid, yn dy lygaid lleithion; A throist yr ergydion hwythau yn fawl i fyw. Fitiodd Wil a Gwladys a myrddiwn o'r werin, Fel fframin ddur yng ngwneuthur nyth d' aderyn, D' eryr dewr a gwlydodd yng nghlawdd y dryw. O'th Breselau anferth cloddiaist furiau dy berthyn A cherbron trawstiau'i haul cyflwynaist werthoedd dy chwerthin Unaist dy bobol mewn dirgelwch fôr. Cynhwysaist ninnau yn dy deulu. Cenaist Berfedd gwyn dy glod a'th fod a phlennaist Dy ddail yn ein gardd-gefn mewn gynnau cywir megis côr. Tlawd yw fy llais yn esgyn dy gegin. Eisteddaf Ar y llawr wrth dy draed. A heno gwleddaf Tan ganol nos y ddaear. Ni bydd pall Ar ddydd dy chwedlau. Hai ddrws Led y ddaear Yr ymdasgant, led dy neuadd, er mor glaear Y gwrendy culni eang dy genedl gall. BOBI JONES.