Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWARELWYR 'STINIOG. Lluoedd llwyd y glaw a'r gwynt Yn crymu hyd lwybrau'r graig, Yn brwydro â grym y garreg. Nos Wener tâl yn gwagswmera ar y stryd A'r sgwrs am ffwtbol, ceffylau a seiat. Neu'n troi i'r sinema am sbel, Neu'n gwylio peli'r enfys ar y gwyrdd Yn llithro'n ysgafn wrth safnau Y tyllau, ac yn syrthio o un i un Nes bo'r bwrdd yn glir. Yn sgwrsio a gwylio, A llwydni'r llechen yn llechu Ym mhlyg eich dwylo, ac yn eich ymysgaroedd. Eryrod y garreg a'r dur, Gwmni gerwin y garw a'r cur, Yn codi rhwng colofnau'r ddaear I entrych eich tyllau, Yn crio o fol y graig, trwy fwrllwch y glaw a'r niwl Am yr aur sydd yng nghalon yr haul. Ac ar ganiad yr utgorn Yn llwybro adref yn eich dillad gwaith, A'r llwch yn nythu yn eich gwisg A'ch cyrff. GWYN THOMAS.