Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYFYRDOD hen wr ar ddydd o wanwyn. (Cân meun chwe symndiad). 1. Prolog. Nid gwaith hen ŵr yw cerdded rhwng y coed ar fore'r gwanwyn bach rhag ofn i'w enaid gadw oed â'r tymor, cau'n iach, gadael corff a ffoi ar flaen ei droed. Nid gwaith hen wr yw cerdded rhwng y coed. Fel un, pan wêl gydnabod ar y stryd, a gwyd ei het yr ochr draw er mwyn cwrteisi, dyna i gyd, mae hwn yn cwrdd â'r gwellt a'r glaw- hen wr a wybu dân dan do gyhyd- Fel un, pan wêl gydnabod ar y stryd, Tip-tapio dawns ffarwel i'r gwanwyn mae. Er ceisio ynddynt ail fwynhad, trech nag ef awelon cae a choedwig, heddiw'n rhedeg dros y dail Ef a'r dail, unwedd y gorwedd y ddau. Tip-tapio dawns ffarwel i'r gwanwyn mae. 2. Argoel y Dydd. Lle crina'r grug ei fforest yn y gaeaf a'r pridd yn gwrlid prin dros oerni craig, He chwery'r gwynt ar dannau'r dydd tawelaf alawon serch i aflonyddu'r aig, mae'r ddaear yn anfon y fyddin gynharaf, hen ddynion penwynion i sôn am yr haf. Ond bellach y mae'r nos yn feistres arnaf nid oes a wnelwyf mwy â'r wyn ac amherthnasol heddiw gerddi gwyrdd a greais ddoe saib a chwyn bellach sydd well. Ar sodlau llawer cri bu farw rhan o'r gwanwyn ynof fi, er holl ystrywian slei ystordai'r brwyn.