Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GRASI" (obiit. 84). Ar ddiwrnod rhynllyd sgrympiog yn niwedd Hydref y cladd- wyd Grasi. Ychydig oriau yn unig a gymerth hi i gamu'r oglawdd ìsel a'i gwahanasai ers blwyddyn a mwy oddi wrth gysgodion pethau ac yr oedd mor hen fel nad oedd neb a gofiai ei phechodau yn fyw mwyach, a threuliodd ei thymor olaf ynghanol tes cym- edrol edmygedd y drydedd a hyd yn oed y bedwaredd genhedlaeth a adnabu ei rhinweddau arwynebol yn unig. Canys yr oedd yr hen do i gyd wedi mynd ac yr oedd aml i dulath noeth yn cilwenu drwy'r ail do hefyd yn yr ardal. Cladd- es:d Bob y Foty ers pum mlynedd dihidlasai rhin a melyster y wisgi a'r gwinoedd allan o esgyrn a giewynnau Syr Horace o dan ei grwys, yntau, ers llawer o flynyddoedd 'roedd Ian:wedi mynd yn ysbryd hefyd. Ac yn yr un modd yr oedd Berkeley Square wedi mynd, a'r myrdd ceffylau a'r phaetonau heini a garlament unwaith hyd y palmentydd. Ac yn awr, wele Grasi hithau, yn frau a chrinsych fel hen gyrtenni theatr a bentyrrwyd ar ei gilydd ers canrifoedd mewn ystafell angofiedig; hithau hefyd yn mynd. Cyfyngwyd ei bywyd i saith droedfedd o bridd ac i ddwy fodfedd yn y newyddiadur lleol Ar ddydd Sadwrn, Hydref 27, bu farw'r chwaer annwyl Mrs. James Edwards a hithau wedi cyrraedd yr oedran teg o bedwar ugain a phedair mlwydd oed. Amlwg oedd fod y babell gadarn yn dadfeilio er ys tro. Yr oedd yn foneddiges hynaws a chanddi lawer o atgofion dyddorol ac adeiladol. Gofalwyd amdani yn ei chystudd olaf yn dyner gan ei nith a'i gwr. Gosodwyd blodeudyrch ar ei beddrod gan Mr. a Mrs. Hugh Williams (prif alarwyr) I Nain gan Gwennie a Dic Sefydliad y Merched Glanynant In Loving Remem- brance, Mrs. a Miss Whitlow; Er Cof, Y Parch. a Mrs. E. J. Davies Mewn Anghof ni chaiff Fod, Misses Rachel and Ellen Roberts. Gweinyddwyd y gwasanaeth (preifat) gan y Parchn. J. Winston Hughes ag L. Morris. (8pt black. indent both sides) Ond, Iesu annwyl, doedd fy meddwl i ddim arnat ti ac nid amdanat ti yr oedd fy nghan-i 'chwaith. Dyna'r da a'r drwg, y llygredig a'r anllygredig ac mi wyddwn i'n rhy dda nad allwn i byth gael yr un hwyl wrth wisgo ddwywaith yr un peth. Mi fum i'n anllygredig ac yn hardd ac yn wyn fel y lili cyn bod sôn amdanat ti y ciwrad bach, a 'roedd hynny ymhell bell yn ôl cyn Ymddangosodd y ddwy ran gyntaf o'r ymdriniaeth Jion yn y Llenor. Hydref—Gaeaf, 1943 a Hydref-Gaeaf, 1944. Hon yw'r ysgrif derfynol.