Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWR GWADD. 4. EUROS BOWEN. Yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, ac yn Rheithor Llangywer, ger y Bala yn frawd i awdur Awdl Foliant i'r Amaethwr ac yn ysgolhaig clasurol y mae Euros Bowen, o flaen popeth, yn fardd. Ac yn ei farddoniaeth, sydd yn aml yn gyfriniol ac ysbrydol ei natur, y mae, yn anad unpeth, yn grefftwr. Seiliodd ei grefft ar seiniau a rhythmau'r gynghanedd, ac fe rydd ei wybodaeth fanwl o'r chwedlau gefndir cyfoethog i'w waith. Mewn beirniadaeth ar ei bryddest 'Difodiant,' a enillodd Goron Eisteddfod Caerffìli yn 1950 sylwodd J. M. Edwards ar ei rinweddau. Y mae glendid gorffenedig pethau wedi eu naddu i'r byw ar ei baragraffau,' meddai, grym anghyffredin mewn rhai o'i ymadroddion, a gvvyr rin a blas geiriau gan ymhyfrydu yn eu lliw a'u gwerth.' Dyma farn a adleisiwyd gan lawer y flwyddyn hon pan ymddangosodd Cerddi,' ei gyfrol raenus a chynhwysfawr. Dyn byr, byw ac ymfflamychol ydyw. Yn gerddwr dihafal ac yn sgwrsiwr toreithiog, llafur caled yw bod yn ei gwmni, ond llafur sydd yn esgor bob amser ar gynhaeaf ffrwythlon. Sôn am ei waith ei hun y mae yn y sgwrs â Derwyn Jones a gyhoeddwn yn y rhifyn yma o'r Arloeswr; cyhoeddwn hefyd un o'i gerddi prôs ef ei hun. Braint yw cael cyflwyno i'n darllenwyr fardd o Gymro sydd a'i ffydd mewn bywyd yn ddiysgog a'i ddiddordeb beunydd beunos mewn perffeithio ei grefft.