Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SAITH UTGORN. Fel yr oeddwn yn pori yn naear y papur newydd ym min llechwedd mewn lle uchel, yn araf wylio arwyddion ein hamserau ni am y sy'r awron i'w weld a'i glywed o'r gwledydd, cerddai cwmwl cur a ddwg camwedd a'i drais yn anniddig ar draws y newyddion, llwm eiriau yn cynnull meirwon llef a dolefain i bant y bedd. Ar unwaith â braw o'r awel a'i rhynnu dyma symud ymaith y cwmwl camwedd, ac wele i'r golwg blwy' wedi rhoi porth i belydrau pur, y lle wcdi ei ado'n lliwiau didwyll gan seithliw dwrf yn tngwyn syth i loywi dydd. Canai lliw coch a'i eco yn neall y cwm, llais orennaidd yn lleisio o'r anwel, melyn y goleuni uwch dibyn a glannau, a'r ffyrdd yng nghlyw y gwyrdd yngholl, huawdl glas yr asur, seinio indigo ar dwyn, ac odanodd trafaeliai traw fioled o'r hoen ar groen y gro. Mae'r pant fel pasiant seibiant rhyw hen sabath, y lle o gyrrau hyd i wigoedd yn anllygredigaeth, fel diwrnod y cyfodi, oherwydd yr awron galwyd o fôr ac o foel weunydd saith utgorn yn ungorn eu nwyd i glodfori ac i foliannu. EUROS BOWEN.