Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERAINT Y DUWIAU Agorodd Gwyn ddrws y modur ac estynnodd ei law i'r bachgen gan gyfeirio ei draed dros y silff isel ar waelod y drws a'i osod i eistedd yn dawel ar y sedd wrth ci ochr. 'Dyna ti, rho dy dra'd ar y mat wrth ochr y sedd.' Yr oedd ei wên yr un mor ddi-ystyr a'r llygaid yr un mor las a difeddwl ag arfer. Wyt ti'n iawn, John bach ? Ni wnaeth John ond nodio'i ben. Lledodd y wên ar draws ei wyneb o'r naill glust i'r llall a chydiodd ei fysedd bychain yn dynn yn y silff o dan ffenestr flaen y modur newydd. Gwelodd Gwyn fod y bachgen flys codi ar ei draed. Na, eistedda di ar y sedd-dyna grwt da. Gelli weld pawb o'r fan yna.' Rhyddhaodd y brêc a llywiodd y modur yn daclus i'r llif cerbydau a redai bron yn ddi-dor heibio'r rheiliau haearn mawr a amgylchynai'r ysgol. Dawnsiai John wrth ei ochr yn ei orfoledd. Ni byddai'r siwrnai yma trwy ganol trafnidiaeth brysur Caer- dydd byth yn pallu yn ei diddordeb i John. Ymddolennai ei gorff yn ôl ac ymlaen fel rhyw ymlusgiad cyntefig wrth iddo geisio cadw ei lygaid ar ddwy ochr y ffordd o'i flaen ac ar yr un pryd geisio gweld beth oedd yn digwydd i'r moduron y tu ôl iddynt. Gwichiai'n uchel i ddangos maint ei bleser gan godi'i law ar bawb a phopeth wrth fynd heibio Yr oedd wedi newid cryn dipyn. Cofiai Gwyn y baban a aned i Ann ei wraig. Mor wahanol ydoedd i Alun, y plentyn hynaf; mor dawel a didrafferth heb ddim o'r crio a'r sgrechian parhaus a ddaethai'n rhan o'u bywyd yn ystod misoedd cyntaf Alun yn y byd. Ni bu erioed faban mwy didrafferth na baban glanach ei olwg na John, gyda'i wallt golau a'i lygaid glas. Yr oedd yn fodlon ar ei fyd o'r dechiau cyntaf, yn cymryd ei gario gan bawb ac yn gwbl ddidaro i'r sylw a gymerai pobl ohono. Dim ond yn raddol y gwawriodd y gwir arnynt. Troes eu hamheuaeth yn sicrwydd ar ôl yr ymweliad â'r arbenigwr. Yn rhyfedd iawn ni bu hynny'n sioc ofnadwy iddynt. Nid oedd ond pentyrru sicrwydd ar sicrwydd marw'r wreichionen olaf o obaith. Nid oedd dim a allai fod wedi rhoi mwy o sicrwydd iddynt, pe bai ef ac Ann yn barod i wyncbu'r ffeithiau, na'r gwahaniaeth rhwng John ac Alun. Yr oedd un ohonynt fel plwm a'r llall fel arian byw. Er hynny, yr oedd dyfarniad syml yr arbenigwr, yn yr ystafell honno a edrychai allan tua'r parc a'r castell, wedi ncwid eu byd, ei fyd ef ac Ann, yn ofnadwy. O'r funud honno daeth yn naturiol iddynt drin a thrafod dyfodol John. Cofiai Gwyn y