Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arolwg ARLUNIO John Elwyn (Sgwrs rhwng Jìhys Guyn a'r arlunydd Cymreig John Elwyn ynglyn ag arluniaeth gyfoes). R.G. 'Rydych chwi yn un o'r to ifanc o arlunwyr Cymreig, ac yn naturiol y mae nifer o gwestiynau ynglyn ag arluniaeth gyfoes yng Nghymru yr hoffwn glywed eich barn arnynt. Ond cyn dod at hynny, y mae un pwnc sy'n peri dryswch mawr i mi y byddai'n dda gennyf gael golau arno. Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw'r ffasiwn o beintio sydd mor boblcgaidid yn Llundain y dyddiau hyn, y ffasiwn honno a elwir yn tachisme' neu 'action painting' He y diflanna'r gwrthrych yn gyfangwbl oddi ar y canfas a'r arlunydd yn lluchio y paent Ue y mynno. Mae'r peintio hwn yn broblem i mi. Faint tybed o wir werth sydd iddo? J.E. A bod yn deg, y mae'n rhesymol awgrymu ein bod ni yn byw yn rhy agos at y datblygiadau diweddaraf mewn arlunio i fedru eu barnu'n iawn, i fedru dewis yr agweddau gorau arnynt, yr hyn sydd am fyw. Ac mae Tachisme mor gwbl wahanol i'r hyn yr ydym ni yn gynefin ag ef. Wrth gwrs, y mae'n rhaid cofio bod rhai gweithiau gwirioneddol dda yn cael eu cynhyrchu heddiw, gweithiau sydd a'u gwreiddiau yn ymestyn yn ôl i 1906 — blwyddyn marw Cezanne, gweithiau sy'n elwa oddi ar yr holl ddigwyddiadau a fu er hynny, yr isms i gyd. Ydyw'r gwaith da yma yn cynnwys rhywfaint o waith y Tachistes ? i Ydyw yn sicr, beth ohono. Mae rhai gweithiau modern gwych-ond eu bod nhw'n wych mewn ffordd gwbl newydd. Ymgais ydynt i ddarlunio dyfnder neu wacter .trwy ddefnyddio lliw yn unig, yn annibynnol ar wrthrych o unrhyw fath. Mae'r un peth yn digwydd mewn meysydd eraill. Dyna'r musiqufc concrete er enghraifft. Mae'r datblygiadau hyn yn ddiddorol, ac yn aml yn wych. Yn wych i'r llygaid profiadol efallai, ond a oes modd i'r dyn cyffrediin eu deall a'u mwynhau?