Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drechion Cymdeithas Celfau Cyfoes Cymru llwyddwyd i greu diddordeb mewn darluniau. Parhaodd y gwaith da ar ôl 1945, ac erbyn 1953 gellid teimlo'r newid. Ond gan mai yn Lloegr y treuliaf i y rhan fwyaf o'm hamser ni allaf dystio i'r sefyllfa heddiw, er fy mod yn credu fod y cynnydd mewn diddordeb yn parhau.' A fu i'r newid hwn sefydlu ysgol Gymreig' o arlunwyr ? Nid yw cyfnod byr o rhyw ugain mlynedd yn ddigon i sefydlu ysgol o ddim. Wrth gwrs fe groesawn i ei gweld. Ond cofiwch gymaint â hyn. Pe byddai'r fath beth ag ysgol Gym- rcig' o arlunwyr yn bod, ni chredaf y byddai ei gwaith mor wahanol â hynny i waith 'ysgolion' eraill-ar wahân i wahan- iaeth testunau a dylanwad anochel y tywydd ar yr arlunydd, cfallai. Heddiw nld yw'r term ysgol o arlunwyr' yn golygu rhyw lawer gan fod dylanwadau o bob math o bob rhan o'r byd ar garreg y drws megis. Faint, tybed, o obaith sydd i arlunio yng Nghymru? Mae safon arddangosfeydd yng Nghymru cystal ag mewn unrhyw fan arall ym Mhrydain, ac mae argoelion fod pethau gwell i ddod. Mae gwell manteision heddiw i arddangos darlun- iau, ac mae hefyd fwy o awydd perchenogi darluniau gwreiddioI- peth pwysig ac angenrheidiol i lwyddiant arluniaeth. Yn fy marn i gall yr arlunydd o Gymro edrych ymlaen at gyfnod iach a chreadigol. BARDDONIAETH. Cerddi Euros Bowen. Bywyd nid yw'n marw­-Hyn sydd fawl — dyma'r llinell, yn anad un, sy'n cyfleu naws y gyfrol hon. Gogoniant a rhyfedd- od bywyd a phethau byw yw byrdwn parhaus Euros Bowen. Yn hyn o beth mae'r gyfrol yn debyg i 'Y Gan Gyntaf' a ym- ddangosodd yn ddiweddar, ond fod awen Euros Bowen (fel y gellid disgwyl) yn aeddfetach nag un Bobi Jones. Ystwyth, anesmwyth ac anwastad ydyw canu Bobi Jones prin iawn yw ei gerddi cwbl foddhaol, ac fe'i ceir ar dro yn parodio'i arddull ddiffuant ef ei hun. Mellt a gwair yw ei ganu, mae mor gyforiog o'r gwych a'r gwachul; mwy gwastad ac urddasol yw canu Euros Bowen. Eithr y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau yw fod awen Euros Bowen, yn ei hanfod, wedi'i gwreiddio mewn athron- iaeth a meddylwaith, ac awen Bobi Jones wedi ei seilio ar deimlad.