Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDORIAETH. Daniel Jones a Dylan Thomas. Problem anodd i'r cyfansoddwr ifanc o Gymro yw problem dysgu techneg, gan mor brin yw'r cyfleusterau iddo yng Nghymru. Li unig ddewis yw gadael ei wlad ei hun a mynd yn efrydydd i un o'r canolfannau cerddorol estron. Dyna a wnaeth amryw o gyfansodwyr cyfoes Cymru, ac yn eu plith Daniel Jones. Eto, o'i mabwysiadu, y mae'r ffordd ymwared hon yn creu problem newydd i'r cyfansoddwr. A dyma yw honno. Sut y gall ef, ac yntau wedi dod dan ddylanwad tueddiadau Ewropeaidd diw- eddar, ddwyn ei waith gerbron cynulleidfa o Gymry-cynulleidfa sydd, oherwydd ynysrwydd y wlad, yn hynod geidwadol ei hagwedd tuag at gerddoriaeth ? Y ffordd amlwg i ddod tros yr anhawster fyddai trwy briodi'r gerddoriaeth â llenyddiaeth Gymraeg, trwy lunio gosodiadau i eiriau Cymraeg. Gwrthododd Daniel Jones y posibilrwydd hwn. Ni cheisiodd ef erioed wneud ei waith yn ymwybodol Gymreig, ond daliodd yn hytrach y byddai Cymreigrwydd ei fagwraeth a'i amgylchedd o anghenraid yn amlygu ei hun yn ei gyfansodd- iadau. Cyswllt agosaf Daniel Jones â llenyddiaeth yng Nghymru oedd ei gyfeillgarwch â Dylan Thomas. Cafodd y cyfeillgarwch hwn gychwyn anghyffredin iawn. Dechreuodd un awr ginio yn yr ysgol. Adroddodd y bardd yr hanes wrthym yn ei stori fer, Yr Ymladdfa.' Yr oedd ef wrthi yn pryfocio hen wr o'r enw Mr. Samuels a drigai nepell o'r ysgol trwy rythu arno. Yr oeddwn bron wedi ei guro,' meddai Thomas, pan ddynesodd rhyw fachgen diethr yn ddiarwybod imi, a'm gwthio i lawr y clawdd.' Daniel Jones oedd y bachgen dieithr, er na wyddai Thomas hynny ar y pryd. Aeth yn daro hyd at waed rhyngddynt. Ond y noson honno cyfarfuasant eilwaith yng nghartref y crwt o gerddor. Darllenodd Dylan lond llyfr ysgrifennu o'i gerddi a chwaraeodd Daniel rai o'i gyfansoddiadau diweddaraf. Fel hyn y blagurodd eu cyfeillgarwch, cyfeillgarwch a barhaodd hyd at farw'r bardd. Ac oddi wrth y cyfeiriadau caruaidd at Dan yn Portrait of the Artist as a Young Dog ac yn y llythyrau at Vernon Watkins gellir casglu fod Dylan Thomas yn rhoi pwys mawr ar y cyfeillgarwch. Nid amlhau geiriau y mae'r bardd wrth sôn am gerddi a chyfansoddiadau cerddorol ganddo ef a Daniel Jones a hwythau yn grytiau ysgol. Perthynai Daniel Jones i deulu cerddgar a chofnodir iddo ddechrau ymhel â chyfansoddi yn chwech oed. Wedi gadael yr ysgol aeth i Goleg y Brifysgol yn Abertawe. Yno