Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA. Theatr Wyddelig. Crwydro strydoedd igam-ogam Galway yr oeddwn pan ddeuthum ar ei thraws. Theatr fechan mewn stryd gefn ydoedd, a'i muriau o'r tu allan yn gweiddi am baent. Cerddai pysgotwyr y cei heibio iddi yn hamddenol ddihidio, ond o gwmpas ei drws chwaraeai twr o blant a Gwyddeleg y gorllewin yn llond cu cegau. Yn neupen y stryd yr oedd dwy ferch ifanc yn gwerthu rhaglenni. Holais un ohonynt ynghylch y theatr. Yr oedd yn amlwg fod ganddi feddwl uchel iawn ohoni. Ymfalchiai ynddi ac o'n hymddiddan brysiog deallais beth o gyfrinach ymlyniad pobl ifanc fel hi wrth y Taibhdhearc na Gaillimhe. Yr oedd yn llwyfan i actorion yr ardal. Yr oedd hefyd yn fan cyfarfod i bawb a garai'r Wyddeleg ac yn gyfle i hyrwyddo adfywiad yr iaith. Oddi mewn yn y foyer yr oedd darluniau o ffotograffau'n dew. Ochr yn ochr yn wynebu'r drws yr oedd golygfeydd allan o 'Ysbrydion' Ibsen a 'Marchogion y Mor Synge, ac ymhlith y cwmni a gyflwynodd yr olaf ym 1944 sylwais ar enw Siobhan McKenna. Cerddais o amgylch yr oriel. Tystiai i berfform- iadau o ddramau gan Tsiecoff, Ibsen, Anouilh, Cocteau, O'Casey, Christopher Fry, Eliot, Synge a Walter Machen. Erbyn hyn yr oedd y foyer yn llawn a theimlwn amryw o'm cwmpas yn llygad- rythu ar y dieithryn yn eu mysg. Profais ias o anghysur, fel pe bawn yn tresmasu i ganol rhyw ddefod gwbl breifat. Ciliais rhagddynt a chroesi'r ystafell i holi'r gwr a gasglai'r tocynnau wrth y ddesg. Yr oeddwn yn ffodus. Ef oedd rheolwr y theatr- Traolach O'n-Aonghusa — a chefais beth o hanes y theatr annis- gwyl hon ganddo. Sefydlwyd cwmni drama Gwyddelig yn Galway ym 1926, a mwyafrif yr actorion naill ai'n fyfyrwyr o'r brifysgol neu'n fechgyn a merched ifanc a'u golwg gobeithiol ar theatr yr Abbey yn Nulyn. Oddi ar y dyddiau hynny chwaraewyd dramau Gwyddeleg yn ddi-fwlch yno hyd heddiw, a bu'r adeilad presennol yn gartref i'r cwmni o'r tri-degau ymlaen. Aelod o'r cwmni gwreiddiol oedd y cynhyrchydd presennol-Coiril O/Mathuma, gwr a ddaethai'n ôl at ei gariad cyntaf ar ôl sbri ar lwyfannau Broadway.