Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ein Sylwadau y tro diwethaf crybwyllasom broblem nawdd i'r artist ac addawsom ei thrafod ymhellach. Nid yw'r broblem hon yn amherthnasol i helynt Pasternak. I gryn raddau y mae ef a'i gyd-lenorion mor gaeth yng ngafael gwladwriaeth Rwsia am fod y wladwriaeth honno, trwy Undeb Awduron y Sofiet, mor hacl ei nawdd i'w hawduron. Y mae gan yr Undeb ei argraffwasg ei hun yn ogystal â'i gylchgronau a'i newyddiadur; rhydd hefyd hyfforddiant a chefnogaeth i ysgrifenwyr ifanc a darpar bcnsiwn i'r hen ac yn Peredelkino, y tu allan i Foscow, cynnal bentref i awduron. Yn Peredelkino yr oedd Pasternak yn byw. Derbyn- iodd ef nawdd gan wladwriaeth. Yn allanol yr oedd yn dda ac yn ddiogel ei fyd, ond diogelwch arwynebol oedd ei gyfran. Oherwydd pan estyn gwladwriaeth ei nawdd i'r artist, ar ei thelerau ei hun y gwna hi hynny yn y pendraw-ar yr amod ei fod ef yn addasu ei weledigaeth i'w gofynion arbennig hi. Anghymeradwywn ninnau unrhyw nawdd a ofyn i'r artist bylu unplygrwydd ei weledigaeth a chymrodeddu ei syniadau. Ni allwn oddef dim sy'n cyfyngu ar ei ryddid barn. Ar yr un pryd, afreal fyddai inni, oherwydd hyn, gondemnio pob math ar nawdd yn ddiwahaniaeth. Dyna a wnaeth Mr. Goronwy Roberts yn Y Cymro ychydig yn ôl, wrth ymdrin â'n Sylwadau diwethaf. Gwrthododd ef nawdd o bob math ac awgrymodd yr hoffai weld celfyddyd yn rhan hunan-gynhaliol o gymdeithas, fel cwmni diwydiannol neu siop bentref. Iddo ef fel Sosialydd dyletswydd pob aelod mewn cymdeithas yw gwasanaethu ei gyd-ddynion hyd eithaf ei allu, a thrwy wneud hynny ei gynnal ei hun. Derbyniwn y gosodiad olaf hwn ac ystyriwn safle'r artist. Gall ef ddewis gwasanaethu naill ai'r wladwriaeth, sef peirianwaith gweinyddol y gymdeithas, neu'r cyhoedd, aelodau'r gymdeithas. Pennaf amcan pob gwlad- wriaeth yw hyrwyddo ei chynnydd materol a'i dylanwad gwleidyddol ei hun, a disgwyl hi i bob artist sy'n ei gwasanaethu blygu glin i'r amcanion hyn. Ni allwn ni, fel y dywedasom uchod, gymeradwyo sefyllfa o'r fath am y golygai fod yr artist yn ildio'r annibyniaeth. Hynny a geisiodd gwladwriaeth Rwsia gan Basternak. Beth, ynte, am y dewis arall a'r artist yn gwasanaethu'r cyhoedd ? Gall geisio cyflawni hyn trwy fodloni gofynion mwy- afrif y gymdeithas. Ond, fel y gwyddom oll, nid oes ar y mwyafrif eisiau celfyddyd. Am ddifyrrwch y sychedant hwy, ac nid cyfystyr celfyddyd a difyrrwch. Mae'n wir bod ambell i artist diffuant a'i weledigaeth a'i ddawn yn cyfateb â gofynion y rhelyw o'i gwmpas. Ond eithriad <prin ydyw, ac i ni y mae yr un mor annheg a ffiaidd disgwyl i bawb o'i gymheiriaid ef blygu i chwaeth y dorf ag yw disgwyl i'r artist fod yn was bach i wlad- wriaeth.