Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRO AR DAITH. Amhosibl yw pontiffeiddio ynghylch llyfrau taith, ac anodd yw eu barnu heb wybod beth yn union oedd amcan yr awdur. Ceir cynifer o wahanol fathau ohonynt ag sydd o amrywiol ddosbarthiadau o deithwyr, ac y mae'r hyn sy'n drysor i'r naill yn anathema i'r llall. Y maent yn chwiw sylweddol ymhob iaith, a thystia blys dihysbydd y darllenwyr i'w cyfaredd od. Y mae'r haen anturiaethus sydd ynom yn ymateb iddynt, er ein gwaethaf weithiau. Dewisodd Syr O. M. Edwards yn gyfrwys wrth ddech- rau ei yrfa lenyddol gyda hwynt, ond ychydig o sylw a roddir iddynt wrth enwi ei gymwynasau. A haeddant eu diystyru felly ? Wrth eu trafod, rhaid cofio mai'n ffres y mae blas y cc llen- yddiaeth hon orau. Dim ond dau fath o deithlyfr, fel rheol, a all orchfygu gorthrwm amser-un gan arloeswr enwog, yn adrodd yn syml hanes ei brofiadau a'i ddarganfyddiadau; ac un gan lenor gwir fawr yn disgrifio'r hyn a welodd ac a deimlodd ar ei daith. Ni chafwyd y cyntaf eto yn Gymraeg ni fuasai O.M. ei hun yn hawlio perthyn i'r ail ddosbarth. Nid cynhyrchu llenyddiaeth fawr oedd ei fwriad, ac nid yn ôl y safonau hynny y dylid mynd ati i feirniadu'r llyfrau, ond yn hytrach fel teithlyfrau cyffredin. O'r safbwynt hwnnw, yr oedd gan O. M. un fantais fawr. Cafodd deithio yn oes aur gweld y byd, a phan oedd hynny'n beth dieithr i'w ddarllenwyr. Yr oeddynt o gymaint â hynny'n barotach i ymdeimlo â swyn y llyfrau, ac â hudoliaeth yr hanes. Yr oedd cyfaredd mewn dim ond enwi'r lleoedd dieithr. Cyh- oeddwyd O'r Bala i Geneva a Thro yn yr Eidal ym 1889, a Thro yn Llydaw ym 1890. Erbyn hynny yr oedd cyfleusterau a chysuron teithio yn eithaf rhwydd i'r sawl a feddai'r moddion ond cyn bo hir, dileodd y Rhyfel Byd cyntaf y rhyddid diofal a'r teimlad o ddarganfod anturus. Yr oedd ei gyfnod o blaid O. M. Nid teithio, o angenrheidrwydd, yw mynd ar y cyfandir. Y mae byd o ddirmyg yn gwahanu'r teithwr oddi wrth y 'tourist.' Teithiwr yw O. M. Edwards, nid tourist' y cardiau post a'r swfenîrs gwael. Ni chwysa o dan awdurdod galed y *bondigryb- wyll yn y llyfr taith, gan ruthro'n wyllt, ynghanol torf fileinig o gyffelyb ysbryd, o un olygfa anhepgorol i'r nesaf. Deunydd myfyrdod a roddai ei deithiau iddo, Os doi byth i Worms, tyrd yma ar hyd yr afon; bydd y siwrne yn hwy, ond cei amser i feddwl." Dibynna gwerth ei lyfrau, felly, nid ar ddiddordeb allanol yr hyn a wêl, ond ar ei ymateb personol ef i hynny. Y ffordd i'w barnu yw trwy bwyso a mesur ei ragoriaethau a'i wen- didau ef ei hun fel teithiwr, nid trwy ystyried y lleoedd yr aeth iddynt, a'r hyn a welodd.