Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi. PERTHYN. Maen'hw'n dweud nad yw cenedl yn ddim ond gair A chymdeithas yn ddim ond chwedl, Ac nad yw traddodiad ond talp o grair Sy'n atal cynnydd mewn carlam o fyd 'Dydi cariad dyn at ei fro, meddan nhw, Yn ddim ond gwendid, penwendid yn wir, Na'i serch at iaith ei dadau, pw, pw, Ond gwagedd, gwagedd i gyd. Oes dechnolegol yw hon, meddan nhw, A'r gwyddonydd a'i piau hi; Fe rwygodd yr atom, ac af ar fy llw Nad pell ydi'r dydd y bydd ef ar daith Drwy wagleoedd di-fater cysodau cudd Sy tu hwnt i'r heuliau ar ffiniau Bod Ac ni bydd hynny ond torîad dydd, Un dydd technolegol maith. Ac felly, am nad oes dim byd o werth Ond gyrru electronau rownd a rownd I greu isotopau i gronni nerth I chwilio'r bydoedd ac i chwalu'r byd, Bydd yr iaith 'rwy'n ei siarad cyn hir yn sarn, A'r tir lle'r wy'n byw yn ddim ond tir, A mi fy hunan yn ddim ond darn 0 freuddwyd na ddaeth yn wir. Os dyna'r gwir ac os dyna'r ffaith, 'Rydw i'n methu deall paham Na bawn i'n ddifatér i'm bro a'm hiaith Ac yn gas genny' 'Nhad a 'Mam 'Rydw i'n methu gweld pam na fyddai'r byd I mi'n ddim ond lwmp o faen, A'r wawr yn ddim ond cymylau mud, A'r machlud yn ddim ond staen.