Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYN SAFADDAN. Mae cynnar chwa yn chwythu'r swel ar dy fin I dreflyn dy lan a fu gynt yn gaer o ddirgelfa, A gwelir dy don yn gannaid fel esgyrn crin Y carw a'r baedd a gludasid adre o'r helfa; Mae adar yr heldir yn nythu eto'n y fro, A'r hwyaid gwyllt yn swatio mewn cilfach a rhewyn, Ac er eu gwibio cynhyrfus o'r dorlan ar dro Ni ddaw'r Tywysog i wylio eu ffrwst ar dy ewyn. Try'r gwdihw, a'i dolef dan loer yn dy goed, Yn wrach ysbeidiol i watwar dylanwad rhieni, Ac ellyllon cefn nos y corwynt wrth gadw'r oed Fel crechwen cyfeddach rhai ynfyd awr eu trueni. A welaf ryw ddinas o'th fewn yn fflachio ei lampau, Ai'r ser ar dy ddwr sydd heno'n ffugio eu campau ? DAVID JONES. CORS CARON. Mae cors yn afradu ei brwyn a'i pharddu O orsaf i orsaf ar gwrr fy mro, Heb wrthglawdd na llwyn na phren yn ei harddu. Ond daw mintai'r adar o unigeddau Y gogledd oer i aeafu'n ei thir, Gan glegar eu hiraeth dros ei chynteddau. Prin yw'r gwanwyni a'r aur hydrefau O staen-i addurno ei masw gnwd, Ac ynddi ni chyfyd y gwynt ei fanllefau. A thrwy ei chawnen mae'r dibris hafau Yn crwydro heibio 'n ddi-liw, a di-ddal, Fel pe'n gwallgofi rhwng dwy o orsafau. DAVID JONES.