Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I GERFLUN RHUFEINIG. yng nghlas hen fynachlog yn Lugo, Gelli'r Rhufeiniaid. Wyneb lleddf, a'th drwyn smwt yn syllu'n ddaîî ar oerni nadd y clâs, heb glywed cân na haul nac adar na thwrf y werin yn y farchnad, ai cofio'r wyt am stremp imperium Rhufain, y milwr talsyth ar y muriau trwch, y fargen Ladin yn y strydoedd syth, a lleddf ymsymud Minho drwy'r Gelli werdd ? Cyn datod bogail y cread crwn, cyn syrthio carreg yn nydd y pyll, cyn codi o Grist ei Grog hael ac eilwaith osod ffurf ar garreg a chread a'r Gelli gron. GARETH ALBAN DAVIES.