Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LEUSA LWYD. Yr wyf fi'n gyfrifol am farwolaeth Leusa Lwyd. Ac eto, er imi feddwl y byd o Leusa, nid yw'n edifar gennyf am hyn. Y mae'n creu teimlad go annifyr ar brydiau, yn arbennig yn ystod yr oriau hynny rhwng hanner nos a dau o'r gloch y bore pan allai ysbrydion yn hawdd gerdded ystafelloedd y mwyaf didd- ychymyg o feibion dynion, ond, a bod yn onest, dyna'r peth gorau a allai fod wedi digwydd dan yr amgylchiadau. Ar un wedd, gellid tybio fod ffawd y tu ôl imi, yn gyrru'r cwch i'r dwr, a hwyrach i'r holl beth gael ei drefnu gan Ragluniaeth o'r dechrau. Fodd bynnag, nid oes rithyn o amheuaeth ynghylch y ffaith syl- faenol myfi sydd gyfrifol am farwolaeth Leusa Lwyd. Newyddiadurwr ydwyf fi heddiw, gohebydd tramor ar staff un o bapurau dyddiol Llundain; ond, wrth reswm, y mae'n rhaid dechrau'r hanes yn y dechrau, a myfyriwr oeddwn yr adeg honno, yn gwneud ymchwil ym Mhrifysgol Dulyn, a'm hail gartref yn ystod y tymor oedd y caffi dilun a roddai ei bara beunyddiol i Leusa Lwyd. Y gwir yw mai gwraig rhy fawr o lawer i'w thy oedd Leusa. Eisteddai'n bentwr anferth mewn cadair siglo, a'r gegin fach y tu ôl i'r caffi yn cau o'i chwmpas,-y bwrdd heb ei glirio, y botel nionod picl yn frenin arno trwy gydol y dydd, a'n llyfrau barddoniaeth a gwyddoniaeth ni'r myfyrwyr blith draphlith o gwmpas y lIe. Rhan oedd ei thy o stryd anniben, droellog, dlawd a grwydrai rhywfodd rhywsut o gyffiniau'r coleg i gyfeiriad Mountjoy a'r parc. Teimlwn yn aml yn ystod fy mlwyddyn y tu ôl i'r caffi mor debyg oedd ein rhes ddiolwg ni i'r strydoedd hynny sydd yn llithro 0 olwg eglwys Sacré Coeur ar fryn Montmartre ym Mharis. Ar y llethrau sy'n wynebu'r ddinas, cyfarch ymwelwyr y mae pob stryd, miwsig a pheintio synthetig yw popeth ond ar yr ochr bellaf i'r bryn y mae strydoedd swil, cyfrinachol a thai disylw, naturiol, a feddant o hyd ar beth o'r hen Fohemiaeth ddychmyg- lon a berthyn i Baris yn meddwl llawer. Felly yn union yr oedd ein stryd ni hefyd-man stwrllyd, amharchus dros ben, a lle delfrydol i gynnal penrhyddid gogoneddus myfyriwr. Ffigur amlycaf y stryd i gyd oedd Leusa Lwyd. Yr oedd hi fel hen long ryfel mewn culfor diawel pan ymddangosai yn yr awyr agored; creadures araf, afrosgo yn edrych fel pe bai beunydd yn ymladd yn erbyn rhyw groeswynt anystyriol ac yn cael trafferth mawr i symud o gwbl. Ond unwaith y cyrhaeddai fôr agored St. Stephen's Green, yr oedd yn llenwi ei hwyliau â gwynt ac yn pydru ymlaen yn ddidramgwydd ynghanol y lôn. Yr oedd yn adnabod pawb ac yn eu cyfarch bob un, heb arafu