Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSTYRIED. R. WILLIAMS PARRY. Ar derfyn stori fer Gymraeg ddiweddar y mae llanc a fuasai'n gwrando ar gydymaith yn traethu mewn dull haniaethol ac megis o'r ymennydd ar draddodiad, olyniaeth ac etifeddiaeth, yn codi cneuen daear o'r gwraidd ac wrth fwynhau ei breuder sych rhwng ei ddannedd a'r blas pridd ar ei dafod teimla iddo ddod o hyd i'w etifeddiaeth ef. Yr hyn a wnaeth R. Williams Parry oedd codi cneuen daear, ei blasu a chymuno â'i etifeddiaeth yntau: Mi gefais goleg gan fy nhad, A rhodio'r byd i wella'm stad Ond cefais gan yr hon a'm dug Fy ngeni'n frawd i flodau'r grug. Gellid tybio bod yn gas ganddo'r ymenyddol fel y cyfryw, am fod yr ymennydd i bob golwg yn gorsymleiddio bywyd Nid bywyd yw Bioleg: Mi af yn ôl i'r wlad. Yn y wlad câi siawns i glywed a gweled. Clywed y durtur yng nghysgod coed y Berwyn, clywed y gylfinhir tel ffliwt hyfrydlais, clywed y sguthan yn agor pig ei diniweidrwydd. Gweld y llwynog ar untroed oediog, gweld y ceiliog ffesant yng ngolud ei liwiau, gweld yr ysgyfarnog fach (un o'r brid sydd rhwng Llanllechid a Llanrwst) yn gwibio ar garlam. Pan ddatguddia'r bardd hwn gyfrinach ei ofuned, nid synhwyrfryd doeth a chwenycha, nid calon lân ychwaith, ond llygad y byddar a chlust y dall, oblegid 'Rhyfedd yw gweld Rhyfedd yw gwrando Fe'i cynhyr- fir yn ddwys gan gyfoeth swn a lliw'r cread a dotia ar firaglau'r synhwyrau, yn enwedig fel Bardd yr Haf. Ond er mor gyfoethog yw rhoddion natur ac er mor hudol yw mwynderau'r ddaear,. ni lwyddant i'w ddenu oddi wrth ei brif ddiddordeb, sef y ddynoliaeth. Hyd yn oed yn Awdl yr Haf cyfeiliant i'r ferch yw aroglau'r gwyddfid, cân yr adar a lliwiau'r haf. Yn y soned Diddanwch fe bair fod llidiart o hyd cyrraedd iddo ar foelni'r mynydd a choetre gysurus wrth law fel dihangfa Teyrnged a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy a'r Cylch, gyda chynorthwy Côr Adrodd Caerdydd o dan ar«reí/«a</ Miss Eirwen Davies.