Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. Williams Parry a'i Soned "Pantycelyn." Anfonodd un o ddarllenwyr Yr Arloeswr gopi inni o lythyr a dderbyniodd flynyddoedd yn ôl oddi wrth R. Williams Parry. Ysgrifenasai ef at y bardd i'w hoîi ynghylch ei soned i Bantycelyn. Derbyniodd ateb llawn a gwylaidd i'w holiadau. Diolchwh i'r derbynnydd dienw, ac hefyd i Mrs. R. Williams Parry, am gyd- synio â'n cais i gael cyhoeddi'r llythyr yn Yr Arloeswr. Y gwir yw na chynnwys fy soned i Bantycelyn-un o'r sonedau cyntaf a nyddais-ddim ailystyron o fath yn y byd. Yr oedd ei lun yn hen gyfarwydd i mi er fy more oes ac ef a welwn yn gyntaf o bob dim pan ddeffrown yn y bore. Mae'n ddiau eich bod wedi sylwi fod gan Bantycelyn gymaint o ran yn y soned ag sydd gennyf fi fy hun. Gelwais ef yn bererin am ei fod ef ei hun yn dweud mai dyna oedd, yn y llinell a ddyfynnwch, Pererin wyf mewn anial dir. Yr oedd yna bererinion eraill yng Nghymru yn ei amser ef nid oedd y bardd crwydrad wedi llwyr ddarfod â bod a chaffai hwn groeso ym mhlasau'r boneddigion. Ond nid felly Williams nid oedd ef yn un o'r Glêr. (Na, nid am clerici vagantes oes D. ap Gwilym y meddyliwn). Dyma geisio ateb eich cwestiynau'n awr: i. Ai wandering minstrel yw ystyr 'pererin'?" Gweler uchod. 2.' "Ai Crist yw'r crythor clif'?" Nage, eithr Williams ei hun. Nid un o bererinion Chaucer oedd Williams ­nid aelod o orchestra ond crythor unig. 3. "A oes contrast bwriadol rhwng 'tu yma i'r bedd' a'r Jiwbil bell'?" Oes yn bendifaddau. Canu digwydd- iadau'r dydd a wnai'r glêr, e.g. Y Blotyn Du.' 4. "Os mai Williams ei hun yw'r 'crythor clir' ni ddeallaf pa fodd y gellir cael mewn un frawddeg gyfarchiad at Williams (Vocative Case) a hefyd enw yn y trydydd person