Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRWY BURDAN. Yr oedd Bernd newydd ddadwisgo'n y gegin ac yn twymo'i draed o flaen y tân pan ddaeth cnoc ar y drws. Clywodd ei fam yn rhedeg yn ysgafn i lawr y grisiau a gwaeddodd arni Mutti, mae rhywun wrth y drws Ond pan ddaeth hi i mewn sylwodd Bernd ei bod yn disgwyl ymwelydd: edrychai'n ieuanc mewn ffrog sidan las-olau ac yr oedd ei gwallt yn disgleirio. "Gwell iti fynd i fyny rwan, rhag iddyn' nhw dy weld di'n dy grys nos. Nos da, lieber Jung', — cofia di ddweud dy bader." Dringodd Bernd i'r llofft yn dawedog. Arferai ei fam ddod i fyny bob nos i ddiffodd y goleuni ac i adrodd stori am ei dad, ond amheuai a wnai hi hynny heno rhywsut. Mutti gwaeddodd o ben y grisiau, ddowch chi i fyny'n y munud ? Ond daeth yr atebiad a led-ddisgwyliai, "Na, cer' di i gysgu, lieber Jung', mae gan Mutti bobl ddieithr heno." Cerddodd yn ôl i'w lofft gan deimlo'n unig iawn yn y tyw- yllwch. Hy! Pobl ddieithr wir! Y Dyn yna oedd wedi dod mae'n siwr, a theimlai'n falch iddo fedru cyrraedd y llofft cyn i hwnnw ei weld. Cofiai'r braw a gawsai pan welodd y Dyn am y tro cyntaf. Gorwedd yn ei wely'r oedd y pryd hynny'n edrych ar lun ei dad ar y mur gyferbyn ac yn ceisio cofio rhai o'r straeon y clywsai ei fam yn eu hadrodd amdano. Ac, am ryw reswm, ni ddeuai cwsg o gwbl. Cododd yntau a mynd i lawr y grisiau at ei fam, ond wedi agor drws y gegin yn ddistaw, fe'i trawyd â syndod oer yr oedd ei fam a dyn dieithr yn eistedd ar y soffa'n ymgomio'n hapus,— yn union fel y byddai Pappa a hithau'n gwneud erstalwm. Yr oedd ar ei fam eisiau iddo ysgwyd llaw â'r Dyn a'i alw'n Dewyrth Gwilym, ond teimlai'n falch iddo wrthod a rhedeg yn ôl i'r llofft. Cofiodd fel y cadwodd ei lygaid ar lun ei dad ar y pared wrth geisio adrodd ei bader y noson honno, ond yr oedd y dagrau'n pylu'i olygon. Teimlo'n debyg iawn yr oedd heno wrth gyrlio'i hunan o dan y dillad. Gwasgai rhyw glap caled yn ei wddf, a throes at ei bader am nodded 'Vater unser, der bu bist in Himmel fe arferai feddwl am Dduw fel rhyw frenin barfog â choron am ei ben, ond er pan aeth Pappa i'r nefoedd, byddai'n cau'i lygaid yn dynn ac yn meddwl am ei wyneb o a phan anghofiai wyneb ei dad weithiau gallai agor ei lygaid i weld ei lun ar y pared 'genheiligt werde dein Name gwyddai oddi wrth straeon ei fam fod ei dad yn edrych i lawr arnynt o'r nefoedd drwy'r amser, ac yr oedd Bernd wedi addo iddi na fuasai byth yn anghofio Pappa dyna pam y cadwai'r esgidiau ffwtbol hynny ar y silff o dan ei lun ar y pared ys gwn i pam mae Mutti mor hapus pan ddaw'r Dyn yna yma ?