Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arolwg. ARLUNIO. Michelangelo, Rembrandt a Picasso. Yn ein harolwg o arluniaeth gyfoes soniwyd hyd yn hyn ychydig am yr artist ei hun ac am y cyfle sydd ganddo i arddangos ei waith. Y tro hwn y gynulleidfa a fydd dan sylw. Yn gyff- redinol yr un peth sy'n wir am gynulleidfa'r arlunydd cyfoes a'r bardd cyfoes yng Nghymru ei nodwedd arbennig yw diffyg cwrteisi a chydymdeimlad. Fedrwn i ddim byw efo hwnna' oedd y sylw a ddaeth o enau nifer fawr wrth edrych ar ddarlun, nad oedd yn hollol gon- fensiynol a dealladwy ar yr olwg gyntaf, yn Arddangosfa Glyn Ebwy eleni. 'Roeddwn newydd groesi drosodd o'r Babell Lên ar brynhawn y Coroni a sylweddolais mai'r un oedd y broblem yn y ddau Ie, ond bod rhai'n fodlon cydymdeimlo â'r bardd annelwig a heb rithyn o gydymdeimlad tuag at yr arlunydd druan pan yw ef yn torri cadwyni confensiwn. Addurn yn unig yw darlun i'r rhan fwyaf o bobl. Y mae ganddynt ddau linyn mesur wrth feirniadu. Yn gyntaf rhaid wrth brydferthwch natur- wyn yn prancio, blodau'n llawn lliw. Anghofir, wrth gwrs, fod ambell ddyn yn gweld mwy o brydferthwch mewn tarw cryf nag mewn oen heini, mewn bôn hen goeden gadarn nag mewn blodyn lliwgar. Anghofir fod oen yn tyfu'n ddafad dwp a blodyn yn gwywo, a bod hyn i gyd yn rhan o gynllun natur. Y mae'n rhaid i ddarlun gymryd ei le efo'r papur wal heb i neb gael ei gyffwrdd gan fynegiant o brofiad sydd allan o'r cyffredin. Dyma arwain at yr ail linyn mesur. Rhaid wrth debygrwydd ffotograffaidd i'r gwrthrych y 'tynnwyd' ei lun. Tynnu llun yw gwaith yr arlunydd, nid oes sôn am greu. Meddai Henry Moore, "The average person does not want to be disturbed by art. What he asks for is the entertainment value of the cinema." Geill dalu ei ddau a naw, rhoi ei feddwl i gysgu, a chael pleser am ddwy awr. Nid yw'n gofyn mwy oddi wrth ddarlun. Nid yw'r darlun confensiynol i'w ddibrisio wrth gwrs, ond camgymeriad mawr yw anwybyddu popeth nad yw'n ffitio i mewn i rigolau confensiwn. Y mae gennyf lawer mwy o feddwl o weithiau diweddar Picasso wedi gweld rhai o'i frasluniau confensiynol cynnar (Byddaf bob amser yn amau diffuantrwydd yr artist, boed fardd neu arlunydd, sy'n hwylio'n braf i'r annelwig heb brofi ei ddawn a'i dechneg yn gyntaf â'r confensiynol a'r dealladwy) ond petai wedi dal yn rhwym wrth grefft a chonfensiwn ar hyd ei oes ni fyddai'n artist mawr. Ni fyddai'r rhan fwyaf o'r dorf sy'n crwydro o amgylch Pabell Celf a Chrefft y Genedlaethol o flwyddyn i flwyddyn yn