Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA. Anlladrwydd, Ser ac Angylion. Chwech o'r gloch yr hwyr ar nos Wener ym mis Hydref ydoedd, a thrafnidiaeth Llundain ar garlam o'm cwmpas. Safwn ar bwys Theatr Piccadilly yn wynebu i'r gogledd-ddwyrain. Yr oeddwn ynghanol byd y ddrama. Cerddais i lawr Shaftesbury Avenue i gyfeiriad Broad Street ac Oxford Street, croesi Charing Cross Road a throi i'r dde ar gornel St. Andrew's Street. Yna crwydro ymlaen ar draws Leicester Square a heibio i'r siopau llyfrau o bobtu St. Martin's Lane. Yn y man cyrhaeddais gof- golofn Nelson a chlochdar diderfyn y drudwy. Ymwthiais oddi wrthynt dan gysgod yr Oriel Genedlaethol ac ar hyd Pall Mall tuag at yr Hay-market. Yno troi i'r dde unwaith eto a chyn hir yr oeddwn yn ôl wrth droed Eros yn nhrobwyll cynhyrfus Picc- adilly. Yn ystod y daith, cefais gipolwg ar saith theatr ar hugain, pob un ohonynt yn cyhoeddi'n huawdl naws ei marsiandiaeth ei hun. Yn allanol yr oedd y ddrama yn Llundain yn llewyrchus. Ond nid aur yw popeth melyn yn y theatr ychwaith, ac felly dewisais dair o'r theatrau i'w profi'n fanylach. Gwelais Duel cf Angels Jean Giraudoux, Variations on a Theme Terence Rattigan, a The Party. Drama a gyfieithwyd o'r Ffrangeg gan Christopher Fry yw Duel of Angels, un enghraifft ym mysg llawer o gyfraniad helaeth Ffrainc i theatr y Gorllewin. Paradocs moesegol sydd ynddi. Cyflwynir inni gymdeithas nad yw'n arddel unrhyw egwyddor yn ei hymwneud â materion serch. Y mae'r gwragedd yn anffyddlon i'w gwyr, a'r gwyr i'w gwragedd. Oherwydd diffyg egwyddor, ni phoena hyn y naill na'r llall ac â bywyd yn ei flaen yn ddiddig fodlon o ddydd i ddydd. Yna, i ganol yr afreoleidd-dra hapus, fe ddaw merch Biwritanaidd ei hagwedd, a'i gŵr, y Barnwr Blanchard. Rhoesai'r gwr ei fryd ar hyrwyddo ei yrfa gyfreithiol trwy gosbi troseddwyr yn drwm, ond uchelgais y wraig, Lucile, yw diwygio'r bywyd cymdeithasol. Tra pery'r difaterwch tawel, ofer yw holl ymdrechu diwyg- iadol Lucile. Ond y mae yn y dref un gwr sy'n caru ei wraig yn angerddol, ac yn gadarn ei grêd y pery hithau'n ffyddlon iddo yntau. O bryder y dyn ifanc, Armand, a thrwy gysylltiadau ei wraig nwydwyllt, Paola, fe ledaenir dylanwad Lucile, ac, o dipyn i beth, fe ddaw'r cynnwrf a achosir ganddi i effeithio ar y dref i gyd. Mae'r chwarae'n ymdroi o gylch y pedwar cymeriad yma a'r carwr diflino, Marcellus, gwr a roes ei fryd ar ennill edmygedd a serch Lucile ei hun a'i chael yn feistres iddo.