Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae traddodiad caeth o ufudd-dod ac amcan yn creu argyfwng pan yw ufudd-dod di-gwestiwn yn peryglu sylfeini'r gymdeithas sy'n seiliedig ar yr ufudd-dod hwnnw. Dyma swyddogion sydd wedi dilyn eu llw o ufudd-dod i'r pen-beth bynnag oedd eu motifau-ond nis dilynasant i'r eithaf. Daeth awr lle bu'n rhaid holi ai nid oedd terfyn i ufudd-dod llwyr er mwyn rhywbeth mwy rhaid fu dewis rhwng bradychu egwyddor cymdeithas reolus neu fradychu gwareiddiad cyfan, ac fe apeliodd y ddwy ochr at yr un egwyddor yn yr un traddodiad i geisio cyfiawnhau dau safbwynt cwbl groes. Dyna baradocs mawr Brad ac y mae'n un o ddilemau mawr bywyd. Ar lefel lIe mae'r canlyniadau'n ddi- nod.­neu, 0 leiaf, ar raddfa fach,-y mae'r sefyllfa hon yn ddramatig; ond pan yw'r argyfwng yn golygu cloriannu gwar- eiddiad cyfan, y mae'n ddrama ofnadwy. Fe ddaeth drama Le Roche Guyon yn fyw i mi gan i'r awdur lwyddo i gyfleu yn artistig oblygiadau dewis yr uchel-swyddogion hyn, sef nid un brad ond tri: brad rhwng unigolion, brad i egwyddor draddod- iadol a brad i genedl a gwareiddiad.. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol dywed Saunders Lewis, Dyf- odol Ewrop yn ail hanner yr ugeinfed ganrif dyna thema'r ddrama hon. Tybiaf fod hynny'n destun priodol i ddrama Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 1958." O sylweddoli ein bod oll yn rhan o'r ddrama honno, y mae'r geiriau olaf yna yn gyfoethog nid yn unig yn eu gostyngeiddrwydd, ond hefyd ym mhraffter eu sylwadaeth ar y sefyllfa gyfoes yng Nghymru ac Ewrop. DEWI M. LLOYD. Cynhwysir adran arbennig ar Iyfrau yn Arolwg rhifyn Pasg o'r Arloeswr.