Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau Y mae llwyddiant y pum rhifyn o'r Arloeswr a ymddangosodd oddi ar Eisteddfod Llangefni wedi dangos bod i'r cylchgrawn ei Ie ym mywyd llenyddol Cymru. Y mae llenorion a beirniaid sy'n awyddus i'w ddefnyddio fel llwyfan i'w gwaith a'u syniadau. Y mae hefyd gynulleidfa sy'n barod i wrando arnynt-er nad yw hi bob amser yn hawdd cael gafael ar eu holl nifer gwasgarog hwy. Mewn geiriau eraill, y mae'r Arloeswr wedi cyfiawnhau ei gych- wyn, a thra pery'r sefyllfa felly fe ddeil i ymddangos. Cylchgrawn llenyddol yn unig ydyw. Barddoniaeth a rhydd- iaith greadigol a beirniadaeth ar lenyddiaeth a geir ynddo, yn ogystal â pheth sylwadaeth ar y celfyddydau cain erailí yng Nghymru. O dro i dro wrth ei olygu bu'n rhaid i ni benderfynu rhwng ei gadw fel hyn ac ehangu ei derfynau i gynnwys ymdrin- iaethau mwy cymdeithasol eu natur-trafodaethau ar bwnc yr iaith, ar grefydd ac addysg a gwleidyddiaeth ac economeg Cymru. Nid oedd penderfynu bob amser yn hawdd, gan fod i'r ystyriaethau cymdeithasol hyn yn aml gysylltiad â chyflwr llenyddiaeth a chelfyddyd. Ond hyd yn hyn eu cau allan o'r Arloeswr a wnaed. Fe barheir i wneud hynny o hyd, ond o hyn allan fe gyhoeddir cymar i'r Arloeswr, sef Yr Arloeswr Newydd. Swydd hwn fydd bod yn sylwedydd effro ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Fe gynnwys y math o ysgrifau a waharddwyd o'r Arloeswr a rhagor tebyg iddynt. Bydd yn sylwi hefyd ar fywyd y tu allan i Gymru fel y gwelir ef gan Gymry, a bydd ynddo adolygiadau amserol ar lyfrau ac oriel, ar lwyfan a chân. Bydd hwn mewn diwyg llai parhaol na'r Arloeswr ei hun, yn gylchgrawn demi-quarto 16 tudalen. Bwriedir iddo ddod allan am y tro cyntaf yn gynnar yn yr Hydref, ac ymddangos wedi hynny'n rheolaidd bob mis; — ac os bytìd llwyddiant iddo, bob pythefnos ymhellach ymlaen. Sicrhawyd panel o gyfranwyr cyson iddo. Yn eu plith gallwn ar hyn o bryd enwi: Emyr Edwards, E. Orwig Evans, Rhys Gwyn, Norman Hughes, John Gwilym Jones, Meirwen Lewis, Dewi Lloyd, E. G. Millward, Glyndwr Thomas a Gwyn Thomas. Ond bydd croeso i gyfranwyr eraill, wrth gwrs. Cymar i'r Arloeswr fydd y llall, ac ni bydd y ddau'n cystadlu a'i gilydd. Deil Yr Arloeswr i ymddangos yn ei ddiwyg presennol ddwywaith y flwyddyn, ar y Calan ac adeg yr Eisteddfod Genedl- aethol. Er mwyn hwylustod gofvnnir i gyfranwyr anfon gwaith i'r Arloeswr i Bedwyr L. Jones, Yr Adran Gymraeg, Coleg y Brif- ysgol, Bangor, a gwaith i'r Arloeswr Newydd i R. Gerallt Jones, Ficerdy, Rhosybol, Sir Fôn. Haf, 1959.