Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwyfan ARGYFWNG CYHOEDDI YNG NGHYMRU "Dirgelwch i rai i'w ddeall ac i eraill i'w watwar." Ym mlwyddyn dathlu tri chan mlwyddiant marw Morgan Llwyd o Wynedd, fe ellid yn burion gymhwyso'i frawddeg adnabyddus ar ddechrau Llyfr y Tri Aderyn at broblem cyhoeddi llyfrau Cymraeg heddiw. O leiaf, dyna'r argraff a geir yn aml wrth ddarllen ein papurau a'n cylchgronau a gwrando ambell raglen radio. Yr wyf am fentro dweud ar y dechrau nad oes nemor un agwedd ar ein gweithgarwch diwylliannol yng Nghymru heddiw a gaiff lai o gydymdeimlad, swyddogol ac answyddogol, ac y mae hyn yn syn- dod ac yn siom pan gofir i ba raddau y dibynna ffyniant yr Iaith Gymraeg ar gyflwr a pharhad ein llenyddiaeth. Yn ôl popeth a darllenwn gan wyr o awdurdod ym myd ieithieg, y mae cadw iaith urddasol a choeth yn fyw heb y gair ysgrifenedig yn am- hosibl, a chan gymryd yn ganiataol fod pawb ohonom sy'n caru'r iaith Gymraeg yn dymuno ei gweld yn ei choethder a'i phurdeb, ac nid yn dirywio'n fratiaith salw a diurddas, yna y mae'n rhaid dal ati, deued a ddelo, i gyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg. Soniwyd am ddiffyg cydymdeimlad swyddogol ac answydd- ogol. Ynglyn â'r cyntaf prin bod angen crybwyll mai sarhau'r genedl Gymreig a wnaeth y llywodraeth wrth roddi mil 0 bunnau y flwyddyn tuag at gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Cyn diwedd yr ysgrif hon fe welir, mi obeithiaf, beth yw ystyr mil o bunnau y flwyddyn yn y cyfeiriad hwn. Nid yw chwarter miliwn o bunnau y flwyddyn yn ormod gan y llywodraeth ei dalu i gynnal un cwmni opera yn Llundain, ond mil i helpu cadw un 0 lenyddiaethau hynaf Ewrop rhag marw Yn y ddarlith radio flynyddol yn ddiweddar fe soniodd Syr Ifor Evans am ryw falchder diesboniad a bair ein bod fel cenedl yn gwaredu rhag derbyn cymorth gwlad- wriaethol i hybu'r celfyddydau. Os yw hyn yn wir y mae'n rhaid inni newid ein syniadau ar frys, oblegid fe ymddengys i mi nad oes ond dwy ffordd ymwared, fel y mae pethau ar hyn o bryd, os yw cyhoeddi llyfrau Cymraeg i barhau, ac i gyfeiriad y llywod- raeth yr arwain un ohonynt. Caf sôn am y llall eto, ond yr wyf fi beth bynnag yn tueddu i anobeithio mwy a mwy beunydd y ceir rhyw lawer o oleuni na chymorth o'r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn a olygaf wrth ddiffyg cydymdeimlad answyddogol, wrth gwrs, yw agwedd y dyn cyffredin, fel y gelwir ef, tuag at y broblem. Fe honnir yn fynych ddigon mai pobl ydym ni'r Cymry sy'n caru llenyddiaeth. Pa un bynnag ai gwir hyn ai