Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METANÔÍA Yn dair ar ddeg ar hugain oed parlyswyd ífan o'i wasg i lawr. Nid oedd ganddo blant er ei fod yn briod ers pum mlynedd; yr oedd yn lwcus yn hynny o beth meddai ei gymdogion wrth ei gilydd, achos fe fuasent yn faich mawr ar wr di-waith. Ar ôl mis o bryder brwnt, a gweld meddyg ar ôl meddyg, un arbenigwr ar ôl y llall, ymgynefinodd Man, ei wraig i ryw raddau, â'r anobaith, ac ymroes 1 wneud y gorau o bethau fel yr oeddynt. Ni siaradai Ifan am ei afiechyd unwaith y sylweddolodd nad oedd gwella i fod. Bu deall ei fod i fyw mewn cadair am y gweddill o'i oes yn fraw barlysol ar ei feddwl, fel petai'n tawelu 'i ymdrech yn erbyn yr anghenfil o beth a gydiodd ynddo. 'Y gwir, Mari Fach, y gwir,' dywedasai. A thra llefarai'r geiriau cofiai am gannoedd a ofynnodd y cwestiwn hwn o'i flaen, pobl y clywodd amdanynt yn ei waith, o gwmpas ei bethau. Gwyddai'n iawn beth fyddai'r ateb. 'Roedd tel gweld ffilm wael am yr ail dro. Ond yr oedd am glywed Mari'n ei ateb, yn rhoi ffurf terfynol i'r peth, yn adrodd y dienyddiad. E.siedooüd ni ar ochr ei wely yn yr ysbyty, yn yr ystatell fach olau honno efo ffenestri mawr, a phopeth ynddi ond y grawnsypiau ar y bwrdd bach wrth y gwely'n edrych yn wyn, annaturiol fel wyneb rhywun claf. Mari'n edrych allan drwy'r ffenestr a'i thrallod yn bigau'n ei llygaid. O Ifan,' meddai'n wantan o'r diwedd, Ifan. 'Does 'na ddim byd fedran 'nhw 'neud.' Wedi iddi fynd, gorweddodd yn hir yn syllu ar y nenfwd ac yn ysmygu. Gwyliai'r mwg yn cyrlio'n glymau glas, melfed, troellog wrth godi, ac yna'n diflannu. Daliodd ryw symud gwefrog o gornel uchel nenfwd yr ystafell fach ei sylw. Pryf bach oedd yno wedi'i ddal mewn gwe. Rhyfeddai fod gwe o gwbwl mewn ystafell fel hon a oedd mor benydiol 0 lân. Siai ei adennydd yn sisial swnllyd, a gwelai ef yn gwingo ac yn ffyrnigo wrth ei ddiymadferthwch ei hun. Yna, o gongl eithaf yr ochr honno i'r ystafell, gwelai ysmotyn du'n symud, yn araf bwyllog tuag at y pryf. Treblodd y twrw'n wallgof o uchel, yn swnian ynfydus. Gwelodd mai pryf copyn oedd yn dynesu at y pryf. Yn hollol ddifeddwl ceisiodd symud i'w achub. Yn naturiol ni symudodd eu goesau, a bu'n rhaid iddo wylio'r corryn yn nesu, nesu at y pryf. Wedi iddo'i gyrraedd, distawodd y twrw, a gwelai'r coryn yn llusgo'i brae ar draws ei we'n gorpws diffrwyth. Troes y peth yn fath o symbol iddo, a rhoes y gorau i obeithio.