Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAERLLION-AR-WYSG (Dywed traddodiad i Iwl ac Aron, dau filwr o'r Ail Leng, gael eu merthyru yng Nghaerllion-ar-W ysg yn y flwyddyn 304 0.0. yn ystod erledigaeth Dioclesian). Dyfalu uwch adfeilion-hen garsiwn A gwersyll Caerllion Er ein sêl, mor brin yw sôn Y muriau am eu meirwon. Y meirwon a'u llym hiraeth-am Rufain, Mor ofer eu harfaeth, Wedi penyd alltudiaeth Mae'r lluoedd mewn celloedd caeth. Yn gaeth dan faner Eryr-yn y gaer Heb gariad bu'r milwyr: Ai gwyrth ? Gwelwn uwch gwerthyr Yn arw eu gwedd ddau o'r gwyr. Gwyr yn sôn am greulon gred-eu cyfaill Hawdd cofio ei dynged Iwl hoff a'i ddwylo ar led I'w hoelio ar groes galed. Caled ei dynged hyd angau ;—am warth Y merthyr bu dadlau: Ai annoeth oedd ? Gwn na thau Ei lais o'i ffyrnig loesau. Ei loes a'i fawl i Iesu-o'i drostan Yn dristwch o'm deutu: Ai brud hen ? Clywn sibrwd hy Dau filwr yn dyfalu. ARON: Cerddi Isga'n llechu rhwng brasgoed O liw gwin, hydrefol goed: Haul ar fyd yn machludo A'i baent ar ei wyneb o.