Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feAË CEREDIGÎON Pan agorai yng ngwyndra'r haul y dail newydd Drwy wyneb dy ddyfroedd a champio i'r awel, 'Roedd sug y gwanwyn yn dychwel yn dawel Hyd fôn pob moryn; a gorlawn distrych manwydd O flagur a gannai ymyl cloddiau'r dolydd. A gwiriwn mai ei hysbryd hi hyd y gorwel A'th wnai yn dyfiant blith; a'i lledrith anwel A'th wnâi yn irlan eto. Ym mhlyg dy feysydd Hi yw fy Mawrth, hi fy Mae Ceredigion Llama drwy drymder pen, byrlyma drwy'r gwythi, Lluchia'i hegin llachar dros fy nghreigiau sychion, Golcha, cabola, a thardda'i blaenffrwyth heli Uwch y swnd di-sêl. Na, ni chlywodd hil dynion Hafal i'r gwanwyn sy'n torri o'i goror hi. Pan sgleiniai ar ddydd heulwen gwanwyn dy ddyfroedd O afiaith byw, 'lan at ewyn y gwylanod 'Roedd gloywder a glesni tasgiadau o'r manod Yn taeru bob munud mai fy meinwen bioedd Y golau a'r awel, ac mai eiddi'r miloedd Wybrennau a ddyfnhâi dy ddyfnder. Eu cysgod Ni ddôi ond o'i mynwes ataf. Cantre'r Gwaelod Wyf finnau, a thrwy fy seleri a'm celloedd Taena'r tonnau a oedd eiddi i'm neuaddau. Hi sy'n chwyddo danynt, sy'n chwythu amdanaf A throelli'r swnd a'r gro diau fod ei gwenau Wedi cau am fy nrws, dros fy enaid. Dysgaf Dan drai a llanw eu llonyddwch am chwarddiadau Na wyddwn amdanynt gynt drwy rialtwch claf. BOBI JONES.