Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gallasai, mi dybiaf, ddringo'r hen lethrau mor barod heddiw â'r flwyddyn honno sydd bellach ar orwel amser i'm cyfoedion i. Nid yw'r hen yn newid llawer, ac iddynt hwy, yn wyneb pob helynt, pwysicach yw doe na heddiw. Tynnodd ei getyn o'i geg a syllodd amaf; nid oeddwn yn awr yn rhan o'i fyd. Ond eto mor aml y treuliais, ar noson ddi-gwsg, sawl breuddwyd pwrpasol yn rhowlio'n y gwair yn ei 'sgubor ef, neu'n feddw o frolio yn eistedd y llwyth o'r llain i'r buarth fin nos. Gwenodd yn gwrtais o'r diwedd ac estynnodd ei law. Cyfarch ymwelydd yr oedd, un a gerddodd ers talwm o'i fyd, un na allai ddychwelyd i'r cega a'r tynnu coes a'n cydiodd ni mor dynn wrth yr olwyn a'r llyn a'r clomendy a'r bont bymtheng mlynedd yn ôl. 'Rwy'n cofio i'r dyrnwr gymryd ei lety unwaith y flwyddyn yn agos i'r felin wag, a ninnau fel milgwn yn chwilota'n y gwellt am lygod a nythod a phob dydd yn cael testun sbort yn y busnes hwnnw. O, a'r corddi fore Mawrth yn y gegin garreg. Crwn o choch, rhy fawr o lawer i'w thy, beunydd yn ffrio tatws, beunydd yn procio'r tân, un felly oedd gwraig Huw. Ond fore Mawrth fe gai'r badell rydu a'r tân ddihoeni a phawb a phopeth gadw ei amser ei hun, a chilio i'w gornel yn ddistaw. Ni fentrai'r ci trwy'r drws y bore hwnnw, na'r gath o'i chysgod ynghanol y coediach ger y tân. Yn frenin y lle, -ond concwerwr digon diniwed-fe safai'r corddwr; eisteddwn innau wrth ei draed, a throi, neu gogio troi, yn awr ac yn y man, gan syllu'r bore i'r gwynt trwy dwll yn y gasgen, y gwyn yn melynu a minnau'n blasu'r llaeth enwyn ar dafod dychymyg, a gweld y swp menyn yn gwingo a sleifio dan ddwylo'r ddewines cyn troi'n bwys crwn gwyrthiol, ac un robin goch yn canu'n ddi-swn ar ei ben.