Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y NOFEL BROTESTANNAIDD GYNTAF? Hoffwn gredu fod L. Alun Page yn un o ffugenwau'r Diafol. Onid yw hyn yn wir, caiff fy ftydd yn y Gwr Drwg ei ysgwyd yn arw fel canlymad i'r erthyglau a ymddangosodd yn Y Faner dan enw Mr. Page, yn argymell sataneiddio e*n llenyddiaeth. Medd- yliwch am y peth Y Diafdl, hyd yn hyn, yw'r unig un o gread- uriaid Duw a gyflawnodd yn gydwybodol ac yn efteithiol ei ran yn nhrefn y bydysawd. Os oes iechydwriaeth trwy weithredoedd, y Diafol yn unig a gaiff ei achub yn Nydd Brawd. A oes modd credu ei fod wedi cwympo mor isel nes methu ag ymgymryd â'i briod waith ei hun ymhhth ein llenorion ? A oes rhaid iddo alw arnom, trwy un o'i fil cegau (os dyna yw Mr. Page), i ufuddhau, yn union fel y mae Duw yn gorfod galw arnom trwy enau ei weinidogion ? Dyna ddiwedd truenus, yn wir, i rwysg uffern, a digon i dorri calon y Bardd Cwsg. Ofnaf, er hynny, fod Mr. Page yn llygad ei le. Mae'r syniad mor syfrdanol nes bod argraffwyr duwiol Y Faner wedi methu'n lân ag argraffu'r gair arswydus sataneiddio santeiddio yw eu hymgais gyntaf, a'r Diafol yn cael ei ddisodli gan y saint, a "santaneiddio" eu hail ymgais; ond yn y diwedd, y Diafol a'i piau hi, ac nid oes amheuaeth beth a olyga Mr. Page. Y mae llenyddiaeth Cymru yn rhy neis, er bod gobaith am newid, gan fod Bobi Jones wedi crwydro i ganol ein nofelwyr. Rhydd Mr. Page y bai ar barchusrwydd y rhai sy'n ddihitio ynglŷn â chrefydd, a chondemnia'r "sentimentalwyr Pabaidd neu Anglicannaidd neu 'ryddfrydol' "-hynny yw, bron bawb, mae'n àebyg, heblaw plant y goleuni-am roi'r bai ar Biwritaniaeth Cymru. Mae'n amlwg fod rhyw hunanhyder esthetig newydd wedi meddiannu'r Piwritaniaid-bu'r Dr. Iorwerth Peate yntau yn amddiffyn pensaerniaeth y capeli yng ngholofnau'r un newydd- iadur: a dywed Mr. Page yn hyderus Buasai'r tadau Piwritan- aidd yn deall y pwynt ynghylch sataneiddio llenyddiaeth i'r dim." Wel, y mae'n amheus gennyf. Yr oedd y tadau Piwritan- aidd yn gryn awdurdodau ar bechod ac felly, mae'n debyg, ar Satan, ond nid felly ar lenyddiaeth. Credaf yn rhwydd mai'r bydol-ddoeth; ac hid y erefyddwyr sy'n gyfrifol am ansfiwdd "foesol" ein llên, ond ni welaf y bu pethau'n well o gwbl yn y ganrif ddiwethaf, pan oedd Piwritaniaeth yn rym effeithiol a barn pob cymdeithas biwritanaidd y clywais i sôn amdani hyd yn hyn yw bod llenyddiaeth yn gyfrwng propaganda i gynnal moesau da. Prin y gellir honni i Oliver Cromwell noddi llenyddiaeth yn ystod ei deyrnasiad ef Hyd yn hyn, Catholigion a wnaeth yr ymgais fwyaf egniol i drafod pechod mewn llenyddiaeth gyfoes-Saunders Lewis yng Nghymru, Graham Greene yn Lloegr, Mauriac a Bernanos yn Ffrainc. Ac ni lwyddasant hwy bob tro i osgoi defnyddio llen-