Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CLOCH Y LLAN Yr oedd hi'n ddiwedd blwyddyn, a rhyw gyffro annelwig yn cerdded y ward. Nid yr un cyffro â'r un a'n meddianai cyn y Nadolig wythnos ynghynt. Yr oedd yna baratoi wedi bod at yr wyl honno, a phawb, ond y rhai gwael iawn, â rhyw gyfran ganddo yn yr arlwy; ac fe wyddem beth oedd i ddigwydd. Dechreuasai'r cardiau gyrraedd ddyddiau ymlaen llaw, ac awgrymodd rhywun eu crogi ar linynnau ar y parwydydd uwch ben y gwelyau. Cyn pen dim aeth yn ymryson gwyllt-pwy a gai'r nifer mwyaf- a'r cardiau'n clystyrru'n ychwanegol bob bore wedi amser post, a'r muriau fel pe bai rhyw frech amryliw wedi eu tarro. Athro ysgol o Sir Fôn a enillodd y gamp fore'r Nadolig. Mi debygwn fod pob un o'r plant o dan ei ofal wedi anfon un iddo, ac nid oedd obaith i ni, feidrolion anllythrennog, yn wyneb y fath genlli. Yn enwedig Huw Dafydd druan, hefo'i un cerdyn, a hwnnw oddi wrth ryw gymdeithas neu'i gilydd-y Llu Prydeinig, mi gredaf, oherwydd buasai Huw yn y rhyfel. Wedyn, dyna firi beunyddiol agor y parseli, heb obaith yn y byd cadw dim yn ddirgel, a'r noson cyn y Nadolig, dawns y staff, a hwythau'n gorymdeithio o ward i ward yn eu gwisgoedd ffansi, ar ôl y gwledda, a chyn i'r dawnsio ddechrau. Ar y blaen yr oedd y Metron, mewn trywsus cwta, sannau pen glin a chrysbas felfed, a baton wen yn ei llaw yn arwain band taro. A ddoe yr oedd hi'n llawn urddas ac awdurdod, yn ffrewyll i bob rhyw lithriad ar ran y gweinyddesau ac yn fflangell ar bob rhyw ddiffyg yn y gweision gweini. "Siou bach eitha' teidi," ebe Huw Dafydd, "ond mi fasa'n well gen i beint." A dydd Nadolig fe ddaeth yr Arolygwr Meddygol ei hun i'r ward, i dorri'r wydd a'n canmol ni am ein dewrder, a'n ham- ynedd, a'n dyfalbara. Ac mi aiff adre rwan," ebe Huw Dafydd, wedi iddo orffen, "i fwyta 'i ginio 'i hun, a photel o win coch Ffrainc hefo fo mi wranta." Cododd y gwydryn lemoned i ddal y golau o'r ffenestri, a syllu arno'n fyfyrgar. "Piso buwch!" meddai a'i daro'n ôl ar y bwrdd heb ei gyffwrdd. Erbyn hyn yr oedd pethau wedi mynd braidd yn fflat-nid aeth neb i drafferthu cyfrif y cardiau Blwyddyn Newydd-a phawb ohonom yn groen-denau a chyn baroted â chwrcath i godi ei wrychyn a'r Siars druan yn ei waith yn trio cadw'r ddysgl yn wastad, gan fod ambell un yn bigog i'w ryfeddu. Nes aeth y si ar led fod yr awdurdodau'n debyg o laesu dwylo ar nos Calan,