Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arolwg DRAMA (Sgwrs rhwng R. Gcrallt Jones a'r dramodydd, Huw Lloyd Edwards). A gredwch chwi fod gobaith o gwbl cael theatr broffesiynol yng Nghymru ? Yn ei ddarlith radio ychydig yn ôl, dywedodd Syr Ifor B. Evans iod ceityddyd broílesiynoi yn riantodol i unrhyw gymdeitn- as wâr, a gresynai at dditaterwcn (sic) y Cymry ynglŷn â'r celfyddydau cam. Cyhuddodd ni o tod yn genedl o amaiuriaid, a rhoes y bai ar ddylanwad marwol anghydfturtìaeth yng Nghymru dros y canrifoedd. Yn fy nhyb i, mae diagnosis Syr Ifor Evans yn gwbl gamar- weiniol: nid anghydffurfiaeth sydd wrth wraidd y drwg, ond ein sefyllfa wleidyddol fel cenedl, a thra pery honno fel ag y mae amaturaidd fydd ein celfyddyd. Nid yw'n dilyn, wrth gwrs, mai safonau isel fyddai'r safonau hynny; ond cyn y cawn theatr broffesiynol rhaid wrth gefnogaeth hael a diwarafun y wladwriaeth. Fe geir hynny ar y cyfandir, ac o'r herwydd, gall gwlad fach dlodaidd fel Ffinland, er enghraifft, gynnal yn agos i ddeugain o theatrau. Ond ofnaf mai ofer yw disgwyl am gefnogaeth o'r fath gan lywodraeth mor draddodiadol philistaidd a chrintach ei hagwedd at y celfyddydau ag y sydd gennym yn Sant Steffan. Nid wyf yn chwifio unrhyw faner arbennig wrth ddweud hyn wrth eu gweithredoedd yr adnabyddwch hwynt. Fel y gwyddys, mae rhai blynyddoedd bellach er pan osodwyd carreg sylfaen Theatr Genedlaethol Lloegr ar lan Tafwys, ac yno yr erys o hyd mor unig a didda â charreg fedd. Dywedodd Shaw unwaith fod y theatr yn wastad ar fin claf- ychu ond sôn yr oedd yn bennaf am theatr Llundain, lle y mae caredigion y ddrama yn ddigon niferus a chefnog i'w chynnal yn ei nychdod. Yn y gweddill o Loegr, mae'r theatr broffesiynol mewn cyflwr pur ddifrifol, ac y mae'n anodd credu y daw medd- yginiaeth iddi o'i hymdrechion ei hun. Gwan iawn, felly, yw'r gobaith y cawn theatr broffesiynol yng Nghymru yn y byd sydd ohoni heddiw: rhaid edrych i gyfeiriad arall os ydym am ddiogelu dyfodol y ddrama Gymraeg a hyrwyddo ei ffyniant. A fyddai sgrifennu i gwmni proffesiynol yn fantais i ddramodydd ? Hyd yma, ni chefais y profiad o sgrifennu ar gyfer cwmni proffesiynol (ar wahân i radio sain a theledu) ond gallaf gredu y byddai hynny o gryn fantais i unrhyw ddramodydd. Wedi'r cyfan, gorfu ar Shakespeare, er ei holl athrylith, ddysgu ei grefft, ac ar y llwyfan proffesiynol y gwnaeth hynny.