Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLŸFRAÜ Englynion a Chywyddau, detholiad Aneirin Talfan Davies gyda rhagymadrodd gan Thomas Parry (Llyfrau'r Dryw, 17/6). Yr wyf am ddechrau hyn o lith fel y gwnaeth adolygydd arall, trwy dynnu sylw at ein hangen mawr am flodeugerddi da yng Nghymru. Ond nid wyf am redeg ar Y Flodeugerdd Gym- raeg, W. J. Gruffydd, ychwaith Pan bwysir casgliad Gruffydd wrth ochr y blodeugerddi a fu o'i flaen-cyfrolau fel Telyn y Dydd, Rhwng Doe a Heddiw a Caniadau Cymru-fe welir ei werth ar unwaith. Ni fynnwn ddweud, wrth gwrs, fod Y Flodeu- gerdd Gymraeg yn gwbl ddifrycheulyd. Cydnabu'r golygydd fod ei detholiad yn boenus o gyfyng yn y frawddeg syfrdanol honno Hiraeth yw testun pob prydyddiaeth, neu o leiaf y bryd- yddiaeth honno a elwir gennym ni yn rhamantus.' Dyma osodiad sydd yr un mor ddiystyr â dweud ein bod ni i gyd yn wyn ein croen (ar wahân i'r rheiny ohonom sv'n ddu ac yn frown ac yn felvn). Rhaid cyfaddef hefyd fod mynd at y dosbarth â'r Flodeugerdd yn fy llaw yn ddigon i droi fy stumog y dyddiau hyn. Onid ysgrifennodd T. H. Parry-Williams 'Jesebel' a T. Gwynn Jones lawer o gerddi gwerthfawr heblaw Y Bedd' ac Eiliw Haul ? Oni chawsom Cerddi'r Gaeaf ers llawer blwydd- yn bellach ? A fydd raid i Gwenallt, Waldo, Gwilym R. Jones, S.L., Alun Llywelyn Williams, Euros Bowen, T. Glynne Davies, Bobi Jones ac eraill, bydru yn eu beddau cyn cael eu derbyn i gysegr sancteiddiolaf y flodeugerdd nesaf a gawn gan Wasg ein Prifysgol ? Y mae'n hwyr glas i ni gael casgliad cynrychioladol o ganu ail chwarter yn ugeinfed ganrif-ac nid yw Beirdd ein Canrif yn cyflenwi'r angen. Ym maes y canu caeth bu'r sefyllfa'n waeth byth tan yn gymharol ddiweddar. Çyhoeddwyd blodeugerdd arall Gruffydd hanner canrif yn ôl, Y Flodeugerdd Newydd (1909), casgliad defnyddiol iawn o gywyddau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, y bym- thegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg, gyda nodiadau a geirfa. Dvwaid Gruffydd yn ei ragymadrodd fod 'yr holl gasg- liadau eraill erbyn hyn, wedi eu gwerthu ac wedi mynd yn anodd iawn eu cael.' Rhaid fod cip, felly, ar gyfrol Arthur Hughes, Cywyddau Cymru, oherwydd cyhoeddwyd honno ychydig ynghynt, tua diwedd 1908. Casgliad helaeth o ddarnau byrion, gan mwyaf, oedd blodeugerdd Arthur Hughes, yn dechrau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn mynd ymlaen at ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Casgliad tameidiol, ie, ond ni ddylid ei fych- anu. Dyry syn:ad eithaf da o natur y traddodiad barddol a chynhwyswyd ynddo eirfa a nodiadau ar y beirdd. Diamau iddo fod yn llyfr gwerthfawr yn ei gyfnod.