Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw) Bu cryn ddiddordeb ymysg deallusion Cymru'n ddiweddar yn rhai o syniadau a phrofiadau'r Ffrances, Simone Weil. Cofiwn ganmoliaeth Saunders Lewis i Hen Dy Ffarm D. J. Williams. Ar waethaf adwaith wrth-genedlaethol y pedwar-degau a chri'r del- frydwyr am gydwladoldeb bur" troes cynhediaid yr athron- iaeth hon at draddodiad y genedl am swcwr ysbrydol, a sonnid am sefydlogrwydd gwreiddiau fel un o anghenion Ewrob. Nod- weddiadol o feddwl y traddodiadwyr yw geiriau Bobi Jones yn Crwydro Môn. Ie, beddau pwysig ddywedais i. Nid morbid yw dweud hynny. Ymfalchiwn yn ein beddau canys hwy yw'r ddolen faterol rhyngom a'n hynafiaid rhoddant sefydlogrwydd i'n hardaloedd a pietas yn ein gorffennol.' Yn ôl i Gymru felly. Y secwndid yw'r gyfres hon. Cyhoeddwyd saith cyfrol gydag ymddangosiad Crwydro Penfro Llwyd Williams, cyfres ydyw a fwriadwyd yn gyntaf i'n helpu i grwydro Cymru fel Cymry trwy "ddyfnhau ein profiad ni ein hunain o froydd ein gwlad." Ebe'r Athro R. T. Jenkins am yr hen deithlyfrau Y pethau sy'n ddiddorol i Sais sy'n cael sylw ynddynt. golygfevdd rhamantus, adfeilion rhamantus. storiau rhaman- tus. Ymddiddorant yn adfeilion castell Llanymddyfri heb feddwl am ymweld â thyddyn Pantycelyn.' Cymer y gyfres ei lle'n naturiol yn yr hen fentalitrfrodorol Gymreig, cans bu dylanwad gwleidyddpl Llywelvn Fawr vn rhy fyrhoedlog a'r patrwm daearyddol yn rhy doredig i newid llawer arni. Brogarwch yn bennaf a ysgoeodd wlatearwch Owen M. Edwards a thelynegrwydd Blodeugerdd W. J. Gruffydd. Rhyfel- gyrch Gwyr Harlech a genid. Bellach wele sadio'r hen ganiadau jinsfoistaidd gyda chadernid vsgolheictod hanesyddol diweddar a lledaenu gwybodaeth am frovdd vn hytrach na bro. Ond os newid- iodd v e-ân Gymreig, ervs ddoe' yn allweddair o hyd. Cyfyd hyn un o broblemau dyrys ein dvdd, sef ym mha berspectif y dylid gosod y gorffennol heddiw. Peryglus yw trafod y naill vn nhermau'r llall. Ystrydeb yw canu fod y doe gwyched y bu, yn farw a'r heddiw, saled y bo, yn fyw. Ond dyma uchafbwynt profiad awdlau eisteddfodol diweddar. Am y gyfres hon hefyd, er ei bod yn coroni'r gorffennol mewn derbvn- iad nwyr, prm y mae'n sylweddoli aîl ddyhead Alun Talfan Davies y bydd "yn ddarlun o fywyd Cymru yng nghanol yr ugeinfed ganrif a all fod mor werthfawr i'r oesau a ddêl ag yw hanes teithiau Gerallt Gymro a Thomas Pennant i ni heddiw."