Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y bymthegfed ganrif. Dywedir i'r tŷ mawr cyfagos fod yn eiddo i Syr William ap Thomas, a briododd Gwladus, ferch Dafydd Gam.' (Crwydro Mynwy). Hawdd y gall cyfansoddi mor llinynaidd ddirywio Tiyd at anhrefn paragraff fel hwn yn Crwydro Maldwyn, "Y mae nifer o bethau yn y Drenewydd sy'n werth sôn amdanynt olion yr hen eglwys ar lan yr afon, ystafelloedd coffa Robert Owen, yr ysgolion newydd (y mae un ar fedr ei gorffen pan ysgrifennir y geiriau hyn), gweithiau Pryce Jones, y ffatri ar gyrion y dref lle y gwneir beiseiclau, yr eglwys o briddfeini melynion nad yw mor hardd yr olwg ag y gallai fod, y pafiliwn lle y ceir y gwyliau cerdd a phob math o bethau eraill (megis ymrysonfeydd paffio ar adegau), ac felly yn y blaen.' Droeon hefyd deffrir ein cyweinrwydd a'n siom mewn anti- cleimacs, 'Toe daeth car arall a disgynnodd gŵr parchedig ohonno. Daeth ataf yn foesgar a gofyn a fynnwn weld yr eglwys o'r tu mewn; cawn yr agoriad yn y ffermdy cyfagos. Diolchais iddo a dywedyd yn awn efallai rhag llaw i'w gyrchu; mewn gwirionedd ni thybiwn fod llawer i'w weld y tu mewn i'r eglwys a barnwn mai da fyddai bod allan yn yr awyr agored.' (Crwydro Mynwy). Diolchwn i'r crwydwr a'r cyhoeddwr am waith destlus a hyfforddus. Y deyrnged orau y gellir ei thalu yw addef y gall v gyfres a map Ordnance wneud taith hir yn bleser digymysg. Mae hefyd yn gydymaith di-ffael i'r crwydrwr cartrefol. GLYNDWR THOMAS Edrych yn 01, Hettie Glyn Davies (Gwasg y Brython 8/6). Casgliad o atgofion am bentref Llanarth, Sir Aberteifi yn wyth a nawdegau'r ganrif o'r blaen yw'r gyfrol hon, cyfrol arall yn darlunio'r hen amser gynt yng Nghymru wledig. Erbyn hyn y mae prif linellau'r darlun yn gyfarwydd-y bywyd cymdogol, hamddenol, hunangynhaliol hefyd, gyda'i amrywiaeth o grefftau gwlad a chrefftau cartref; bywyd trwyadl Gymreig ar wahân i'r addysg Seisnig. Yr hyn sy'n ddiddorol o hyd yw manylion y darlun, ac y mae digonedd o fanylion yn Edrych yn ôl gan fod gan yr awdures gof da. Godro ei chof a wnaeth, a chofnodi ei hatgofion mor syml a dilol a phetai'n ateb holiadur rhyw ym- chwiliwr i arferion gwerin. Ni cheisiodd fyfyrio uwchben ei hatgofion a llunio ohonynt gyfanwaith llenyddol sy'n bortread o gymdeithas arbennig fel campweithiau W. J. Gruffydd a D. J. Williams. Ond i'r rheìni a gaiff flas ar ddirwyn edafedd a bodio brethyn cartref yng ngwmni Elizabeth Williams bydd yn llyfr diddorol. P.L.J.