Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau Mae'r Academi Gymiieg bellach yn ffaith, ac y mae yng Nghymru un sefydliad yji rhagor i noddi llenyddiaeth-cymar newydd i'r Eisteddfod a'r Cyngor Celfyddyd a'r Cymdeithasau Llyfrau. Am dros gant a deg a thrigain o flynyddoedd bu'r Eisteddfod wrthi yn ei ffordd geidwadol ei hun yn cefnogi llenor- ion ac ysgrifenwyr Cymraeg o bob math. Ni bu ei chefnogaeth yn gwbl lwyddiannus bob amser, mae'n wir. Yn y ganrif ddiw- ethaf camarweiniodd genedlaethau o feirdd gyda'i dyhead uchel- geisiol ac ofer am gerdd epig Gristionogol. Ar hyd ei gyrfa, hefyd, rhoes ormod o fri ar y cystadleuydd proffesiynol a'r myd- ryddwr cwac. Ond eto, er gwaethaf ei gwendidau ddoe a heddiw, gwnaeth yr Eisteddfod gyfraniad gwerthfawr i'r bywyd llenyddol, yn bennaf efallai trwy feithrin cynulleidfa lengar. (A chyda llaw, onid yw hi'n hen bryd inni gael ymdriniaeth gyflawn a beirniadol â'r Eisteddfod, yn olrhain ei hynt a'i hanes ac yn pwyso a mesur ei chyfraniad?). Bu Pwyllgor Cymreig y Cyngor Celfyddyd yntau, yn ddiweddar, yn noddwr hael a deallus i'r ddrama Gymraeg yn ogystal ag i feirdd a llenorion eraill gyda'i wobrau canpunt. Ac yn ddiweddarach fyth daeth y Cymdeithasau Llyfrau, yn arbennig yng Ngheredigion, i gynnig i awduron gymorth ymarferol amhrisiadwy. Ac yn awr dyma'r Academi. Noddwraig yw hithau. Noddi llên yw ei phwrpas a'i chyfiawnhad ac nid anrhydeddu â'r teitl 'Academydd.' Twyllwyd rhai gan dras ac urddas yr enw Academi a'r aelodaeth gyfyngedig, a thybiasant fod dyrnaid o lenorion yn eu dewis eu hunain a'u cymheiriaid cymeradwy yn oreugwyr llenyddiaeth Gymraeg ac yn eu hanrhydeddu eu hunain â rhyw wobr Nobel leol. Ni allai hynny fod. Pa fath o anrhyd- edd i lenor o Gymro fyddai bod yn un o bedwar ar hugain dewisol? I unrhyw gydnabyddiaeth lenyddol fod yn anrhydedd gwirion- eddol yng Nghymru, heddiw neu mewn unrhyw gyfnod yn y gorffennol, byddai hanner dwsin o dderbynyddion cyfoes yn hen ddigon os nad yn ormod. Cymdeithas o lenorion o ddifrif gyda'u llenydda yw'r Acad- emi, a dyna i gyd. Triwy gyfarfod i gydweithio gobeithiant hyrwyddo a noddi llenyddiaeth Cymru, ac eisoes awgrymasant rai ffyrdd o wireddu eu gobeithion. Sylwn ninnau ar eu bwriadau. Yn un peth gobeithiant sefydlu math o ganolfan lenyddol iddynt eu hunain lle y gallant gyd-gyfarfod yn dawel a phreifat i drin a thrafod problemau celfyddyd, lle y gallant gyd-ddysgu trwy