Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADWY PROLOG Roedd coeden o flodau porffor i'w gweld trwy ffenestr y gegin, ac arni y dawnsiai'r pilipalas gwynion bob haf. Erbyn hyn, ar ôl ergydion dwyreiniol, didostur gwynt y gaeaf, gwyrai'r brigau i gyd i gyfeiriad y ffenestr, fel pe i gnocio'r gwydr am sgwrs â Lisa Vaughan. Ond 'roedd Lisa'n rhy brysur yn fforchio pwys o sosej cyn eu ffrïo, ac â phob fforchiad ffyrnig yn dweud y drefn o dan ei hanadl. Beth oedd harddwch coeden i wraig ty Ilawn a mam i ddau dros eu deunaw ? "Dychmyga'r peth!" ebe hi wrth Rhisiart ei gwr y bore hwnnw, gan wneud dau lygad mawr syn a cheg gron fel 'sgodyn mewn powlen, Dau yn 'u hoedran nhw yn gofyn am gael parti Ac nid rhyw barti-bach neis diffwdan. O na! Rhaid i Mererid gael crugyn o'r ffrils a'r ffaldilals rhyfedda'. Pwy erio'd glywodd am neb yn 'i iawn bwyll yn llyncu peinafel gyda bacwn, a sosej odd'ar rhyw sglodyn coes-matsien o bren ? Fe ddwedes i wrthi'n blaen, 'Pan own i yn dy oedran di, 'merch i, rown i'n gorfod torchi llewys a gweithio am fy marachaws, a 'doedd dim sôn am barti yn fy hanes i-nac yn hanes dy dad, 'chwaith, mi wranta. A phan fedrodd 'y mam, druan,-dy nain di-wahodd rhywun i de, 'roedd yn dipyn o ddanteithyn i gael torth o fara brith yn ffres o'r popty a'r menyn yn nofio ar 'i wyneb-a jeli wrth gwrs. 'Chlywais i erioed shwt ddwli â'r syniade hyn sy genti-a bwyta'r cyfan oll wedyn, meddet ti, yng ngolau'r gannwyll! Fe fydd 'na lanast', meddwn i. 'Beth fuaswn i a Gwen dy fodryb wedi'i roi am olau trydan yn Yr Hendre 'slawer dydd yn lle'r hen lamp oel ddrewllyd honno oedd genoni ? Pwy 'ti eisiau'u gwadd, dywed ? gofynnes i. Achos mynnu dy barti 'wnei di mae'n debyg, a dy dad a finne'n ddigon dwl i roi i mewn i dy fympwyon di a Huw yn wastad.' "Wel, mae wyth ohono 'ni wedi cyrraedd adre am y vac mam," mynte hi, meiledi, mae'r lleill wedi mynd o Evesham i hel ffrwythau am bres. Ac 'roedd Huw a finne'n meddwl y buase'n beth braf i ni gael aduniad bach am sgwrs go iach. Mae'r hen Llan 'ma'n ddigon marwaidd wedi'r cyfan, a ninne wedi arfer â chwmni'n gilydd erbyn hyn." "Edrych di yma, Mererid," mynte fi wrthi, "'roedd y Llan 'ma'n ddigon da i ti a Huw cyn ichi'ch dau adel yr ysgol a mynd i Aberystwyth. A 'dyw'r Llan wedi newid dim. A phaid ti â gadael i dipyn o addysg dy newid dithau chwaith." "Ara'deg, ara'deg, Lísa-da1 dy afael, fenyw." Torrodd llais addfwyn Rhisiart ar ei thraws, fel mam yn ceisio lliniaru dolur plentyn. "'Rwyt ti'n rhy galed ar y plant, chwarae teg."