Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. WILLIAMS PARRY-Y Bardd Rhamantaidd Noson o haf yw hi, rhywdro yn ystod y ganrif hon, rhywle ar y ffriddoedd hynny sy'n ymestyn o gymysgfa pentref Llanllechid draw tua Phenmaenmawr. Islaw y mae Coetmor, Bangor, holl wastadedd Sir Fôn. Draw ar y dde gwelwn dref Biwmares fel dinas Eidalaidd yn yr haul. Ar y llwybr mae rhywun yn cerdded. Dyn bychan, twt, sydet ei gerddediad ydyw. Er nad yw'n edrych yn farddonol iawn, bardd ydyw, a phan wêl lain o glychau'r gog yn chwifio a dawnsio o'i flaen mae'r blodau'n cydio yn ei synhwyrau ac yn rhoi ei ddychymyg ar waith. Saif yno am ysbaid i'w gwylio. Yng nghlust ei ddychymyg clyw lais y gwcw, yr aderyn a berthyn i'r blodau hyn, a sylweddola mor addas yw'r enw a roddwyd arnynt; maent hwythau, fel y gwcw, yn dod gyda dechrau haf ac yn diflannu yr un mor sydyn, gyda'u carped o liw a'u harogl a fu am gyfnod yn pereiddio'r awyr. Noson dawel yw hi ac fe glyw yn y man swn canu o glochdy eglwys Llandygai islaw. Ond dal i wylio'r clychau mudion y mae'r bardd, yn chwifio'n rheolaidd yn ôl ac ymlaen ar alwad y gwynt; a dewisach ganddo ef yw'r clychau hyn gyda'u (holl atgofion o'r gorffennol, atgofion sy'n ymgasglu yn ei gof dan ddylanwad eu lliw a'u sawr. O dipyn i beth mae cerdd yn dechrau crynhoi yn ei feddwl, cerdd sy'n ceisio ail-greu tawelwch a thangnefedd y funud. Y mae'n rhaid i'r gerdd awgrymu breuder y tawelwch a byrder y funud. Y ffordd i wneud hynny yw canolbwyntio ar natur ddiaros y blodau eu hunain a'r prydferthwch affwysol na phery ond am ychydig. Gwyliwn fel y gwna hyn yn y gerdd orffenedig. Yn gyntaf, cais hoelio'r syniad o ddiffyg parhad Dyfod pan ddêl y gwcw, Myned pan êl y maent, Y gwyllt atgofus bersawr, Yr hen lesmeiriol baent; Cyrraedd, ac yna ffarwelio, Ffarwelio, — Och na pharhaent. Sylwn fel y mae'n defnyddio dau synnwyr, yr arogl a'r lliw, y trwyn a'r llygaid, i ddenu'n sylw at y blodau, a'r ansoddeiriau tanbaid sydd ganddo fel arfau — gwyllt,' 'atgofus,' llesmeiriol." Sylwn hefyd ar y modd y mae'n tristau'r ffarwel trwy ail-adrodd y ferf 'ffarwelio,' ac arafu'r ail-adrodd wedyn trwy gario'r ail ffarwelio ymlaen i linell newydd. Y mae hyn i gyd yn arwain i'r ebychiad personol sy'n mynegi ei ofid ei hun nad oes modd i'r blodau aros yn hwy